
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2017 a daw i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
2 
Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
3 
Yn erthygl 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “datganiad achos llawn” (“full statement of case”) yw, ac mae’n cynnwys—
(a) datganiad ysgrifenedig sy’n cynnwys manylion llawn yr achos—
(i) y mae’r ceisydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990; neu
(ii) y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990; a
(b) copïau o unrhyw ddogfennau ategol y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel tystiolaeth;”.
4 
Yn lle erthygl 13 (hysbysiad o atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru) a’i bennawd rhodder—“
13. 

(1) Wrth atgyfeirio unrhyw gais at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol), rhaid i awdurdod cynllunio lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) cyflwyno i’r ceisydd hysbysiad o atgyfeirio; a
(b) anfon copi o ffeil y cais at Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r hysbysiad o atgyfeirio at Weinidogion Cymru ar yr un pryd ag y mae’r hysbysiad yn cael ei anfon at y ceisydd.
(3) Caiff ceisydd y mae hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno iddo ddewis cyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i geisydd sy’n dewis gwneud hynny anfon—
(a) y datganiad achos llawn fel bod Gweinidogion Cymru yn ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno;
(b) copi o’r datganiad achos llawn i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.
(5) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “ffeil y cais” (“application file”) yw’r cais ynghyd â dogfennau atodol a’r holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais; a
(b) ystyr “hysbysiad o atgyfeirio” (“notice of reference”) yw hysbysiad—
(i) sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru;
(ii) sy’n nodi’r rhesymau a roddir gan Weinidogion Cymru dros ddyroddi’r cyfarwyddyd; a
(iii) sy’n hysbysu’r ceisydd—(aa) y caiff y ceisydd gyflwyno datganiad achos llawn i Weinidogion Cymru, os yw’n dewis gwneud hynny;(bb) os yw’r ceisydd yn dewis cyflwyno datganiad achos llawn, rhaid i Weinidogion Cymru ei gael o fewn 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r hysbysiad o atgyfeirio yn cael ei gyflwyno; ac(cc) bod rhaid anfon copi o’r datganiad achos llawn (os yw’n gymwys) i’r awdurdod cynllunio lleol ar yr un pryd ag y caiff ei anfon at Weinidogion Cymru.”
5 

(1) Yn erthygl 26(1)—
(a) yn is-baragraff (a) hepgorer “, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2),”;
(b) yn is-baragraff (a) ar ôl “gan Weinidogion Cymru” mewnosoder “a datganiad achos llawn”;
(c) ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “a chopi o’r datganiad achos llawn”.
(2) Yn erthygl 26(2), yn lle “Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1) yw” rhodder “At ddibenion adran 78(3) o Ddeddf 1990 y cyfnod amser a ragnodir y mae’n rhaid cyflwyno apêl ynddo o dan adran 78(1) o’r Ddeddf honno yw”.
(3) Yn erthygl 26, yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl—
(a) o dan adran 78(1) o Ddeddf 1990 os nad yw’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) wedi eu cyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod amser a ragnodir ym mharagraff (2);
(b) o dan adran 78(2) o Ddeddf 1990 os nad yw’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) wedi eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.”
6 
Ar ôl erthygl 26A mewnosoder—“
26B. 

(1) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 195 o Ddeddf 1990 (apelau yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif cyfreithlondeb defnydd neu ddatblygiad presennol neu arfaethedig neu fethiant i wneud penderfyniad ar gais o’r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—
(a) cyflwyno i Weinidogion Cymru ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â—
(i) y cyfryw rai o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r apêl; a
(ii) datganiad achos llawn;
(b) cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol gopi o’r ffurflen a grybwyllir yn is-baragraff (a), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(ch) a chopi o’r datganiad achos llawn.
(2) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) yw—
(a) y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol a arweiniodd at yr apêl;
(b) yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;
(c) yr holl ohebiaeth gyda’r awdurdod mewn perthynas â’r cais;
(ch) unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill mewn perthynas â’r cais nad oedd wedi eu hanfon at yr awdurdod;
(d) yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un.
(3) At ddibenion adran 195(1B) o Ddeddf 1990, y cyfnod amser a ragnodir y mae’n rhaid i apêl a wneir o dan adran 195(1)(a) o’r Ddeddf honno gael ei gwneud ynddo yw 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad sy’n arwain at yr apêl.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl—
(a) o dan adran 195(1)(a) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod amser a ragnodir ym mharagraff (3);
(b) o dan adran 195(1)(b) o Ddeddf 1990 os na chyflwynir y dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraffau (1) a (2) i Weinidogion Cymru.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i’w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—
(a) sy’n ymwneud ag apelau o dan adran 195 o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a
(b) y gellir eu cyflawni yn electronig.
(6) Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.”
7 
Ar ôl erthygl 26B mewnosoder—“
26C. 

(1) At ddibenion adrannau 78(4BA) a 195(1DA) o Ddeddf 1990 yr amgylchiad a ragnodir yw bod y cais y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cynnwys gwall cywiradwy.
(2) Mae cais sydd wedi ei amrywio o dan yr amgylchiad a ragnodir ym mharagraff (1) yn destun unrhyw ymgynghori pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “gwall cywiradwy” (“correctable error”) yw gwall—
(a) sydd wedi ei gywiro er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais a’r dogfennau atodol yn gyson; a
(b) nad yw’n addasu hanfod y cais.”
8 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd mewn perthynas â chais a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym—
(a) bod y cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu
(b) bod apêl yn cael ei wneud.
(2) Mae Gorchymyn 2012 yn gymwys i’r cais hwnnw neu’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 i 7 wedi eu gwneud.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017