
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017..
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.
2 
Mae Rheoliadau 2002 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—“
 ystyr “cartref plant diogel” (“secure children’s home”) yw cartref plant, o fewn ystyr y Ddeddf—
(a) sy’n darparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid; a
(b) y mae person wedi’i gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef;”.
4 
Yn rheoliad 29 (digwyddiadau hysbysadwy), ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad mewn perthynas â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel.”
5 
Ar ôl rheoliad 29, mewnosoder—“
29A. 

(1) Os bydd unrhyw blentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel yn marw, rhaid i’r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu—
(a) swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(b) yr awdurdod lleoli;
(c) yr awdurdod lleol y mae’r cartref plant diogel wedi’i leoli yn ei ardal;
(ch) yr awdurdod iechyd y mae’r cartref plant diogel wedi’i leoli yn ei ardal;
(d) Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac
(dd) rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(2) Rhaid i’r person cofrestredig ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—
(a) rhoi i’r OCPh fynediad i—
(i) safle’r cartref; a
(ii) dogfennau a chofnodion y cartref;
(b) caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion o’r safle y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel i wneud hynny; ac
(c) os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyfweld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y cartref.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—
(a) cynnwys manylion—
(i) amgylchiadau’r farwolaeth;
(ii) y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r person cofrestredig wedi’u hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a
(iii) unrhyw gamau y mae’r person cofrestredig wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;
(b) cael ei wneud neu ei gadarnhau’n ysgrifenedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi’i benodi gan yr OCPh neu sy’n gweithio ar ei ran at ddibenion ymchwilio o dan baragraff (2).”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017