
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw —
(a) cyngor sir yng Nghymru;
(b) cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol perthnasol;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor awdurdod perthnasol;
 ystyr “ward amlaelod” (“multiple member ward”) yw ward etholiadol yr etholir drosti fwy nag un aelod; ac
 ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti aelodau i awdurdod lleol.
3 
—Mae’r gofynion a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 319ZB o Ddeddf 1990.
4 

(1) Mae awdurdod perthnasol i benodi i bwyllgor yr awdurdod sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol—
(a) dim llai nag 11 o’u haelodau; a
(b) dim mwy nag 21 o’u haelodau.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i reoliad 5.
5 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod perthnasol sy’n—
(a) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol; neu
(b) bwrdd cydgynllunio.
(2) Rhaid i nifer yr aelodau a benodir i bwyllgor yn unol â’r rheoliad 4 beidio â bod yn fwy na hanner cyfanswm nifer aelodau’r awdurdod perthnasol, wedi ei dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
6 

(1) Yn achos ward amlaelod, un o aelodau’r awdurdod lleol yn unig o’r ward hwnnw sy’n gymwys i’w benodi i bwyllgor awdurdod perthnasol.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i awdurdod lleol sy’n cynnwys wardiau amlaelod yn unig.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2017