
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar ôl “Tenby South”, mewnosoder “Traeth Glan Don Beach”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2017