
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2017 ac maent yn dod i rym ar 15 Chwefror 2017.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (Dosbarth A)—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) of which there is no resident;”;
(b) ym mharagraff (b), ar ôl “is” mewnosoder “substantially”.
(3) Yn rheoliad 5 (Dosbarth B)—
(a) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) of which there is no resident;”;
(b) ym mharagraff (b), ar ôl “is” mewnosoder “substantially”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2017