
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prynu tir yn orfodol yng Nghymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “deddfiad arbennig” (“special enactment”) yw—
(a) Deddf leol neu breifat sy’n awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno, neu
(b) darpariaeth sydd—
(i) wedi ei chynnwys mewn Deddf ac eithrio Deddf leol neu breifat, a
(ii) yn awdurdodi prynu tir yn orfodol a nodwyd yn benodol yn y Ddeddf honno;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981; ac
 ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw gorchymyn sy’n darparu bod y Ddeddf i fod yn gymwys i brynu tir yn orfodol y mae’n ei awdurdodi fel petai’r gorchymyn yn orchymyn prynu gorfodol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae pryniant gorfodol wedi ei awdurdodi—
(a) gan orchymyn prynu gorfodol, ar y diwrnod y caiff y gorchymyn ei gadarnhau gan Weinidog neu Weinidogion Cymru neu awdurdod arall, neu ei wneud gan Weinidog neu Weinidogion Cymru;
(b) gan orchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, ar y diwrnod y mae’r Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru yn penderfynu gwneud y gorchymyn o dan adran 13(1) o’r Ddeddf honno;
(c) gan orchymyn adolygu harbwr, gorchymyn grymuso harbwr neu orchymyn cau harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 1964, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan y Gweinidog priodol neu Weinidogion Cymru neu berson sydd wedi ei ddynodi mewn gorchymyn a wnaed o dan adran 42A o’r Ddeddf honno;
(d) gan unrhyw orchymyn perthnasol arall, ar y diwrnod y gwneir y gorchymyn gan Weinidog neu Weinidogion Cymru; neu
(e) gan ddeddfiad arbennig, ar y diwrnod y deddfir y deddfiad arbennig.
3 

(1) Mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017 —
(a) at ddibenion adran 4(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 1;
(b) at ddibenion adran 6(1) o’r Ddeddf, ffurf ragnodedig hysbysiad sy’n pennu’r tir ac sy’n datgan effaith datganiad breinio cyffredinol yw Ffurflen 2.
(2) Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ffurflen â rhif yn gyfeiriadau at y ffurflen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen neu at ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) 1990 wedi eu dirymu o ran Cymru.
(2) Mae’r Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â phrynu tir yn orfodol a awdurdodir cyn ^ Ebrill 2017.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2017
ATODLEN 1
