
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£13.50” rhodder “£14.00”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£43.00” rhodder “£44.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£185.00” rhodder “£190.00”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£185.00” rhodder “£190.00”; ac
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£13.50” rhodder “£14.00”.
3 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2015 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2017