
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “hereditament” (“hereditament”) yw hereditament yng Nghymru;
 ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989; ac
 ystyr “rhestr” (“list”) yw rhestr ardrethu leol a lunnir gan swyddog prisio awdurdod bilio yng Nghymru o dan adran 41 neu 41A o’r Ddeddf.
2 

(1) Mewn cysylltiad â phob hereditament a ddangosir ar restr, rhaid i’r rhestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) disgrifiad o’r hereditament;
(b) ei gyfeiriad; ac
(c) unrhyw gyfeirnod a briodolwyd iddo gan y swyddog prisio.
(2) Mewn cysylltiad ag unrhyw addasiad y cyfarwyddir ei wneud gan dribiwnlys, rhaid i’r rhestr nodi pa un a roddwyd y cyfarwyddyd gan Dribiwnlys Prisio Cymru neu’r Uwch Dribiwnlys.
(3) Rhaid i restr ddangos cyfanswm y gwerthoedd ardrethol a ddangosir yn y rhestr yn unol ag adran 42(4) o’r Ddeddf ar unrhyw ddiwrnod y mae mewn grym.
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hereditament—
(a) sy’n fwynglawdd neu’n chwarel, neu’n eu cynnwys; neu
(b) y mae’r hereditament cyfan neu ran ohono wedi ei feddiannu ynghyd â mwynglawdd neu chwarel mewn cysylltiad â storio neu dynnu ymaith ei fwynau neu ei sbwriel.
(2) Wrth benderfynu ar swm y rhent a amcangyfrifir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i’r Ddeddf mewn perthynas â hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo—
(a) rhaid diystyru symiau—
(i) sy’n daladwy mewn cysylltiad ag echdynnu mwynau o unrhyw ran o’r hereditament sy’n dir a feddiennir at y diben o gloddio a gweithio mwynau, eu graddio, eu golchi, eu malu a’u gwasgu; ac
(ii) y gellir eu priodoli i werth cyfalaf y mwynau a echdynnir; a
(b) rhaid tybio mai cyfran y symiau sy’n daladwy ar gyfer echdynnu mwynau y gellir eu priodoli i werth cyfalaf y mwynau yw 50 y cant.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 nid yw “tir” yn cynnwys adeiladau, strwythurau, ffyrdd, siafftiau, mynedfeydd na gweithfeydd eraill;
 mae unrhyw gyfeiriad at fwynglawdd neu chwarel yn cynnwys cyfeiriad at ffynnon neu dwll turio, neu at ffynnon a thwll turio ar y cyd; ac
 oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn nhestun Saesneg y Rheoliadau hyn ac yn Neddf Mwynfeydd a Chwareli 1954 yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.
4 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw uned o eiddo yng Nghymru (“eiddo perthnasol”) sy’n hereditamentau ar wahân yn unig oherwydd y cânt eu rhannu gan ffin rhwng awdurdodau bilio.
(2) Mae eiddo perthnasol i’w drin drwy gydol unrhyw gyfnod perthnasol—
(a) fel un hereditament; a
(b) fel pe bai wedi ei leoli yn ardal yr awdurdod bilio y lleolir y rhan honno o’r eiddo y byddai, oni bai am y rheoliad hwn, yr hereditament yr ymddengys i’r swyddog neu’r swyddogion prisio perthnasol fod iddo’r gwerth ardrethol mwy neu (yn ôl y digwydd), y gwerth ardrethol mwyaf ar y diwrnod perthnasol.
(3) Ond—
(a) pan fo eiddo perthnasol yn cynnwys tir sydd o fewn rheoliad 3 (prisio mwyngloddiau a chwareli) (ond nad yw’n cynnwys tir o’r fath yn unig)—
(i) mae unrhyw dir o’r fath i’w ddiystyru; a
(ii) mae’r eiddo perthnasol i’w drin fel pe bai wedi ei leoli, drwy gydol unrhyw gyfnod perthnasol, yn ardal yr awdurdod bilio y lleolir y rhan honno o’r eiddo a fyddai, oni bai am y rheoliad hwn, yr hereditament yr ymddengys i’r swyddog neu’r swyddogion prisio perthnasol fod iddo’r gwerth ardrethol mwy neu (yn ôl y digwydd), y gwerth ardrethol mwyaf ar y diwrnod perthnasol.
(b) Mae’r ardal awdurdod bilio y mae’r eiddo perthnasol i’w drin fel pe bai wedi ei leoli ynddi i’w phenderfynu drwy i’r swyddog neu’r swyddogion prisio perthnasol fwrw coelbren–
(i) pan fo’r eiddo perthnasol yn cynnwys yn unig dir sydd o fewn rheoliad 3 ar y diwrnod perthnasol;
(ii) pan ymddengys i’r swyddog neu’r swyddogion prisio perthnasol bod gwerthoedd ardrethol y rhannau o’r eiddo perthnasol yn gyfartal; neu
(iii) pan fo mwy nag un swyddog prisio perthnasol ac nad yw’r swyddogion hynny yn cytuno pa ran o’r eiddo perthnasol sydd â’r gwerth ardrethol mwy neu’r mwyaf.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol ac sy’n dod i ben pan fo rhestr ardrethu leol newydd wedi ei llunio;
 ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw diwrnod pan fo’n rhaid llunio rhestr ardrethu leol neu, pan fyddai’r hereditament yn cael ei ddangos i ddechrau mewn rhestr o’r fath am unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod pan fo’n rhaid llunio rhestr o’r fath, y diwrnod y byddai’n cael ei ddangos yn y lle cyntaf; ac
 ystyr “swyddog prisio perthnasol” (“relevant valuation officer”) yw swyddog prisio awdurdod bilio y mae unrhyw ran o’r eiddo perthnasol wedi ei leoli yn ei ardal.
5 

(1) Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005, yn y diffiniad o “hereditament”, yn lle “unrhyw hereditament y mae rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989” rhodder “unrhyw hereditament y mae rheoliad 4 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2017”.
(2) Yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005, yn lle “Regulation 6 of the Non-Domestic Rating (Miscellaneous Provisions) Regulations 1989 (cross-boundary hereditaments)” rhodder “Regulation 4 of the Non-Domestic Rating (Miscellaneous Provisions) (Wales) Regulations 2017 (cross-boundary property in Wales)”.
6 

(1) Mae Rheoliadau 1989 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1—
(a) yn y teitl, ar ôl “commencement” mewnosoder “, application”;
(b) ym mharagraff (2) yn lle’r diffiniad o “list” rhodder ““list” means a local rating list compiled by the valuation officer for a billing authority in England under section 41 of the Act”;
(c) ym mharagraff (2) ar ôl y diffiniad o “the Act” hepgorer “and” ac yn y man priodol mewnosoder ““hereditament” means a hereditament in England; and”; a
(d) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) These Regulations apply in relation to England.”.
(3) Yn rheoliad 6(1) ar ôl “any unit of property” mewnosoder “in England”.
7 
Mae erthygl 3 o Orchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Cyllid) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) 1996 wedi ei dirymu.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2017