
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Medi 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei lunio a’i gyhoeddi yn unol ag adran 144A o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
3 
Mae’r Atodlen (sy’n nodi’r gofynion o ran ffurf adroddiadau blynyddol) yn cael effaith.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2017
YR ATODLEN
Rheoliad 3
1 
Rhaid i’r wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei chynnwys mewn adroddiad blynyddol gael ei nodi o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 1: Rhagarweiniad
Pennod 2: Crynodeb y Cyfarwyddwr o berfformiad
Pennod 3: Sut mae pobl yn llunio ein gwasanaethau?
Pennod 4: Hyrwyddo a gwella llesiant y rheini yr ydym yn eu cynorthwyo
Pennod 5: Sut yr ydym yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud
Pennod 6: Cael mynediad i wybodaeth bellach a dogfennau allweddol
2 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 4 gael ei nodi mewn chwe rhan o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 4(a): Gweithio gyda phobl i ddiffinio a chydgynhyrchu canlyniadau llesiant personol y mae pobl am eu cyflawni
Pennod 4(b): Gweithio gyda phobl a phartneriaid i amddiffyn a hyrwyddo iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl
Pennod 4(c): Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag camdriniaeth, esgeulustod neu niwed
Pennod 4(d): Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas
Pennod 4(e): Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol iach yn ddiogel
Pennod 4(f): Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i gyflawni llesiant economaidd gwell, i gael bywyd cymdeithasol ac i fyw mewn llety addas sy’n diwallu eu hanghenion
3 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhob rhan o bennod 4 gael ei nodi mewn tair adran o dan y penawdau a ganlyn—
Adran (i): Beth y gwnaethom gynllunio ei wneud y llynedd?
Adran (ii): I ba raddau y gwnaethom lwyddo a pha wahaniaeth a wnaethom?
Adran (iii): Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a pham?
4 
Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ym mhennod 5 gael ei nodi mewn tair rhan o dan y penawdau a ganlyn—
Pennod 5(a): Ein gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol
Pennod 5(b): Ein hadnoddau ariannol a sut yr ydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol
Pennod 5(c): Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd