
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 10 Chwefror 2017.
2 
Pris Adbrynu
3 

(1) At ddibenion—
(a) adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977, a
(b) adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977 fel y’i cymhwysir gan adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927,cyfrifir y pris adbrynu mewn perthynas â thir yng Nghymru drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—P=£(RY)−(RY(1+Y)n)
(2) At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (1)—
 P = y pris adbrynu;
 R = swm blynyddol y Rhent-dal (neu, yn ôl y digwydd, y rhent y mae adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 yn berthnasol iddo) i’w adbrynu (mewn punnoedd sterling);
 Y = cyfradd aeddfedu, wedi ei mynegi fel ffracsiwn degol, cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol; ac
 n = y cyfnod, wedi ei fynegi mewn blynyddoedd (gan dalgrynnu unrhyw ran o flwyddyn i flwyddyn gyfan), y byddai’r rhent-dal (neu, yn ôl y digwydd, y rhent y mae adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 yn berthnasol iddo) yn parhau’n daladwy pe na fyddai’n cael ei adbrynu.
(3) Ym mharagraff (2), y gyfradd aeddfedu yw’r gyfradd log sydd wedi ei chyhoeddi ar ddiwedd y diwrnod busnes ar ddiwrnod masnachu olaf yr wythnos cyn yr wythnos y cyflwynir y cyfarwyddiadau i adbrynu o dan adran 9(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2017