
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2017—
(a) adran 13 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â gofynion cyffredinol cynllun a gymeradwywyd);
(b) adran 15(1)(b) i (d) ac adran 15(2) (dyletswydd CCAUC i fonitro cydymffurfedd ac i werthuso effeithiolrwydd);
(c) adran 26 (cymhwyso Rhan 3 pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd);
(d) adran 27(4) (dyletswydd corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig mewn cysylltiad â’r cod rheolaeth ariannol);
(e) adrannau 31 i 36 (monitro cydymffurfedd â’r cod a phwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r cod);
(f) adran 37(1) i (6) ac adran 37(8) a (9) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
(g) adran 39(1) i (3) ac adran 39(5) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);
(h) adran 41(1)(c) ac adran 41(1)(e) i (g) (cymhwyso adrannau 42 i 44);
(i) adran 50 (adroddiadau blynyddol);
(j) adran 51(1)(b) i (d) ac adran 51(1)(f) (adroddiadau arbennig);
(k) adran 54(2) (dyletswydd corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig mewn cysylltiad â gwybodaeth neu gyngor a roddir gan CCAUC o dan adran 54(1)(b));
(l) adran 58(1) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau o Ran 1 o’r Atodlen y cyfeirir atynt ym mharagraff (m); ac
(m) yn Rhan 1 o’r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 1 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 3 a 4; a
(ii) paragraffau 3 i 6.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2017