
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety, Gosod Ffioedd ac Asesiad Ariannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 1(3) yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—“
 ystyr “byrdymor” (“short term”) yw cyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;”;
(b) yn rheoliad 2(a) ar ôl “Unedig” mewnosoder “nad yw’n llety byrdymor”.
3 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 1(4)—
(i) hepgorer y diffiniad o “terfyn cyfalaf”;
(ii) yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—“
 ystyr “terfyn cyfalaf perthnasol” (“relevant capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno gan ddibynnu pa un a oes arno angen gofal a chymorth preswyl neu amhreswyl, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.”;
(iii) yn y diffiniad o “terfyn ariannol” yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(b) yn rheoliad 7(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;
(c) yn rheoliad 8(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;
(d) yn rheoliad 9(1) yn lle “amhreswyl” rhodder “preswyl”;
(e) yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf)—
(i) ym mharagraff (1) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(ii) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mae’r terfynau ariannol at ddibenion adran 66(5) o’r Ddeddf fel a ganlyn—
(a) y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal preswyl yw £30,000;
(b) y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal amhreswyl yw £24,000.”;
(iii) ym mharagraff (3) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(iv) ym mhennawd rheoliad 11 yn lle “Terfyn cyfalaf” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol”;
(f) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;
(g) yn rheoliad 15 (dyfarniad diwygiedig), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu A i dalu ffi yn unol â’r rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i A; a
(b) rhaid iddo ad-dalu i A unrhyw ordaliad am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig; neu
(c) caiff ei gwneud yn ofynnol i A dalu unrhyw ffi ychwanegol am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig.”;
(h) yn rheoliad 22(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;
(i) yn rheoliad 23(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;
(j) yn rheoliad 26 (terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol)—
(i) ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(ii) ym mhennawd rheoliad 26 yn lle “Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol – taliadau uniongyrchol”;
(k) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;
(l) yn rheoliad 30 (dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu B i dalu cyfraniad neu ad-daliad yn unol â’r rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i B; a
(b) rhaid iddo ad-dalu i B unrhyw ordaliad o gyfraniad neu ad-daliad a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig; neu
(c) caiff ei gwneud yn ofynnol i B dalu unrhyw gyfraniad neu ad-daliad ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig.”
4 
Mae Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle paragraff 16 rhodder—“
16. 
Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(a) ac (cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon.”;
(b) ar ôl paragraff 16 mewnosoder—“
16A. 
Unrhyw daliad a geir o dan y Pensiwn Anabledd Rhyfel.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2017