
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016.
2 

(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10 (achosion apelau cofrestru: gwysion tystion) yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) caiff GCC wneud cais i’r Llys Sirol neu’r Uchel Lys i ddyroddi gwŷs tyst yn unol â Rheol 34.4 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998.”
(3) Yn rheoliad 23 (achosion addasrwydd i ymarfer ac achosion gorchmynion interim: gwysion tystion) yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) caiff GCC wneud cais i’r Llys Sirol neu’r Uchel Lys i ddyroddi gwŷs tyst yn unol â Rheol 34.4 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998.”
(4) Yn rheoliad 34 (achosion gorchmynion interim: gwysion tystion) yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) caiff GCC wneud cais i’r Llys Sirol neu’r Uchel Lys i ddyroddi gwŷs tyst yn unol â Rheol 34.4 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
7 Chwefror 2017