
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;
 ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
 ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru;
 ystyr “y Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau” (“the Service Providers Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017;
 ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.
3 
Mae’r troseddau o dan y darpariaethau a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi fel troseddau rhagnodedig at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
4 
Mae swm y gosb sydd i gael ei dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn yr Atodlen.
5 
Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i gael ei thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
6 

(1) Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’r rheoleiddiwr gwasanaethau drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan y rheoleiddiwr gwasanaethau neu ar ei ran, sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth i’r ffeithiau a ddatgenir.
7 

(1) Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.
(2) Mae adran 184 o’r Ddeddf yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.
8 

(1) Caiff y rheoleiddiwr gwasanaethau dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi rhybudd ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—
(a) os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn penderfynu—
(i) na ddylai fod wedi cael ei roi, neu
(ii) na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu
(b) os yw’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.
(3) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.
(4) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).
(5) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.
9 

(1) Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad y derbynnydd;
(b) swm y gosb;
(c) y cyfnod talu;
(d) y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;
(e) y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(f) y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;
(g) y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;
(h) y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;
(i) ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.
10 
Rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—
(a) copi o bob hysbysiad cosb a roddir;
(b) cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;
(c) manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;
(d) manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.
Huw Irranca-Davies
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2017
YR ATODLEN
Rheoliadau 3 a 4


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Adran 47 o’r Ddeddf Gwneud datganiadau anwir Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Adran 48 o’r Ddeddf Methiant i gyflwyno datganiad blynyddol Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Adran 49 o’r Ddeddf Methiant i ddarparu gwybodaeth Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 7(3) a (5) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 11(3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â sefyllfa ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 12(1) a (2) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 19(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 20(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 35(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 38(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 59(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chreu a chynnal cofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 60(1), (2) a (4) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 67(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 74(1) a (2) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd ar ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 75(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 80(4) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 81(1) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 84(1) a (3) o’r Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
