
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2014 (Cychwyn Rhif 10) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Dŵr 2014.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a) adran 17 (rheolau ynghylch taliadau ar gyfer cysylltiadau etc); a
(b) adran 38 (canllawiau sy’n ymwneud â rheolau ynghylch taliadau).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2014 i rym ar 1 Ebrill 2019—
(a) adran 8 (swmpgyflenwi dŵr gan ymgymerwyr dŵr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 9 (prif gysylltiadau â systemau carthffosiaeth);
(c) adran 10 (cytundebau gan ymgymerwyr dŵr i fabwysiadu seilwaith) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(d) adran 11 (cytundebau gan ymgymerwyr carthffosiaeth i fabwysiadu seilwaith) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2017