
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a) y rheoliad hwn, rheoliad 2(1), 2(3)(a), 2(3)(b)(i) a 2(3)(b)(iii) ar 15 Ionawr 2018;
(b) rheoliad 2(3)(b)(ii) ar 28 Chwefror 2018;
(c) rheoliadau 2(2) a 3 ar 1 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(4) Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” gan yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009.
2 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 37A(1) (darparu systemau llethu tân awtomatig) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—“
(i) a hostel providing temporary accommodation to those who are ordinarily resident elsewhere;”.
(3) Yn Atodlen 3 (cynlluniau hunanardystio ac esemptiadau i’r gofyniad i roi hysbysiad adeiladu neu adneuo planiau llawn)—
(a) ym mharagraffau 4, 8, 9, 12, 13, 14 a 15 o golofn 2, hepgorer “Benchmark Certification Limited,”;
(b) ym mharagraffau 10 ac 11 o golofn 2—
(i) o flaen “BM Trada Certification Limited” mewnosoder “Assure Certification Limited,”;
(ii) hepgorer “BM Trada Certification Limited,”; a
(iii) hepgorer “, Network VEKA Limited”.
3 
Nid yw’r diwygiad a wneir gan reoliad 2(2) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo, cyn y dyddiad y daw’r rheoliad hwnnw i rym—
(a) hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus yn cael ei roi i awdurdod lleol, neu gynlluniau llawn yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol; neu
(b) gwaith adeiladu yn cael ei wneud neu wedi ei wneud yn unol ag unrhyw hysbysiad neu gynlluniau o’r fath, boed unrhyw wyro oddi wrth yr hysbysiad neu gynlluniau hynny ai peidio.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2017