
RHAN A
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Ionawr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2018.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 14;
 mae “cyfarpar cyfathrebiadau electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—
(a) cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig;
(b) cyfarpar a ddyluniwyd neu a addaswyd at ddefnydd anfon neu gael cyfathrebiadau neu signalau eraill a drosglwyddir drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebiadau electronig, neu sy’n cynnwys y defnydd hwnnw;
(c) llinellau;
(d) strwythurau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) neu bethau a ddefnyddir, a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â darparu rhwydwaith cyfathrebiadau electronig; ac
(e) unrhyw offer atodol a gaiff ei feddiannu at ddiben person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006 neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o’r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—
(a) a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebiadau electronig, a dim ond ar gyfer hynny;
(b) sy’n gaban glan môr neu’n swyddfa bost;
(c) y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo (elusennau neu glybiau chwaraeon cymunedol amatur);
(d) y mae naill ai baragraff (a) neu (b) o adran 47(5B) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo (sefydliadau dielw);
(e) sy’n hereditament a eithrir fel y diffinnir “excepted hereditament” yn adran 47(9) o Ddeddf 1988;
(f) sy’n hereditament y Goron fel y diffinnir “Crown hereditament” yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988;
 ystyr “hereditament cymwys” (“qualifying hereditament”) yw hereditament sy’n dod o fewn erthygl 12(1)(c) o’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “llinell” (“line”) yw unrhyw wifren, unrhyw gebl, unrhyw diwb, unrhyw bibell neu unrhyw beth tebyg (gan gynnwys ei chasin neu ei gasin neu ei gorchudd neu ei orchudd) a ddyluniwyd neu a addaswyd i’w defnyddio neu ei ddefnyddio mewn cysylltiad â darparu unrhyw rwydwaith cyfathrebiadau electronig neu wasanaethau cyfathrebiadau electronig;
 mae “llofnod” (“signature”), “llofnodi” (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynir yn unol ag erthygl 13(3) neu 14(6) drwy gyfathrebiad electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu’n rhesymegol â’r hysbysiad, lofnod electronig, fel y diffinnir “electronic signature” yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), pan fo’r trethdalwr—
(a) yn bartneriaeth, yw partner i’r bartneriaeth honno;
(b) yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i’r ymddiriedolaeth honno;
(c) yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i’r corff hwnnw, acmewn unrhyw achos arall, yw person sydd wedi ei awdurdodi’n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr;
 nid yw “strwythur” (“structure”) ond yn cynnwys adeilad os mai unig ddiben yr adeilad hwnnw yw amgáu cyfarpar cyfathrebiadau electronig arall;
 ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public post office” gan adran 125(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
3 
Pan fo hereditament yn cydymffurfio â’r amodau mewn mwy nag un o erthyglau 7, 8 neu 9, yr erthygl sy’n gymwys yw’r erthygl sy’n cael yr effaith mai’r swm isaf sydd i’w godi mewn cysylltiad â’r hereditament.
4 
Pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir ar restr ardrethu annomestig leol sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) yn unig, rhaid i’r trethdalwr hysbysu’r awdurdod bilio ar gyfer y rhestr honno am yr hereditamentau hynny yn unol ag erthygl 13.
5 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £20,500.
RHAN B
6 
Yr amodau sydd i’w bodloni at ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988 yw’r rhai a ragnodir yn erthyglau 7 i 9.
7 
Yr amodau gwerth ardrethol yw—
(a) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir; ac
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl.
8 
Yr amodau gofal plant yw—
(a) bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;
(d) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £20,500; ac
(e) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
9 
Yr amodau swyddfa bost yw—
(a) y defnyddir yr hereditament, neu ran o’r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;
(b) nad yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £12,000;
(c) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(d) bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i’r awdurdod bilio mewn cysylltiad â’r hereditament yn unol ag erthygl 14.
10 
Mae swm E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 i’w bennu yn unol ag erthyglau 11 a 12.
11 

(1) Oni bai bod erthygl 12 yn gymwys (trethdalwr yn atebol am fwy na dau hereditament cymwys), pan fo’r amodau yn erthygl 7, 8 neu 9 wedi eu bodloni, E yw’r swm a bennir ym mharagraff (2), neu a gyfrifir yn unol â’r paragraff hwnnw.
(2) Pan fo hereditament yn bodloni’r amodau a ragnodir gan yr erthygl a bennir yng ngholofn (1) o’r tabl isod, a gwerth ardrethol yr hereditament o fewn yr ystod yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (2), E yw’r swm a bennir yn y rhes gyfatebol yng ngholofn (3), neu fel y’i cyfrifir ynddi.

Tabl
(1)Erthygl (2)Gwerth ardrethol(£) (3)Swm E
7 (gwerth ardrethol) 0 i 6,000 5,000,000
7 (gwerth ardrethol) 6,001 i 12,000 Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon
8 (gofal plant) 0 i 6,000 5,000,000
8 (gofal plant) 6,001 i 20,500 Cyfrifir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon
9 (swyddfa bost) 0 i 9,000 5,000,000
9 (swyddfa bost) 9,001 i 12,000 2
(3) Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol neu’r amodau swyddfa bost) drwy rannu 6000 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
(4) Cyfrifir swm E (ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant) drwy rannu 14,500 â’r ffigur a geir drwy dynnu 6000 o werth ardrethol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar gyfer y diwrnod hwnnw, wedi ei gyfrifo i dri lle degol (gan dalgrynnu i fyny neu i lawr fel y bo’n briodol).
12 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys—
(a) i bob rhestr ardrethu annomestig leol (“rhestr”) ar wahân;
(b) i hereditamentau nad ydynt yn bodloni’r amodau yn erthygl 8 neu 9 (yr amodau gofal plant neu’r amodau swyddfa bost) yn unig; ac
(c) pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament a ddangosir am y diwrnod ar restr ac sy’n bodloni’r amodau yn erthygl 7 (amodau gwerth ardrethol) (“hereditamentau cymwys”).
(2) Swm E ar gyfer y ddau hereditament cymwys sydd â’r gwerthoedd tybiannol uchaf, fel a bennir yn unol â pharagraffau (4) i (6), yw’r swm a bennir yn erthygl 11(2), neu a gyfrifir yn unol â’r erthygl honno.
(3) Swm E ar gyfer unrhyw hereditamentau cymwys eraill yw 1.
(4) Gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai, yw A.
(5) Cyfrifir gwerth tybiannol hereditament cymwys sydd â gwerth ardrethol o £6,001 neu fwy yn unol â’r fformiwla—((12,000−A)/6000)×A.
(6) A yw gwerth ardrethol yr hereditament cymwys.
RHAN C
13 

(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Rhaid i hysbysiad gael ei roi pan fo trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am fwy na dau hereditament cymwys, neu’n dod yn atebol i’w talu.
(3) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a) ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b) ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(4) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(5) Pan fo hysbysiad wedi ei roi caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach o dro i dro, yn unol â’r erthygl hon.
14 

(1) Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a’r materion eraill a bennir yn Atodlen 2 a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
(3) Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy’n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â’r hereditament y mae a wnelo’r hysbysiad ag ef—
(a) pan fo’r rhan o’r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid rhestr ardrethu annomestig leol; a
(b) pan roddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw am y newid yn unol â rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (newid rhestrau),
caniateir i’r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw’n gynharach na’r dyddiad y mae’r newid yn cael effaith o dan y rheoliadau hynny.
(5) Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod sy’n gynharach nag 1 Ebrill 2018.
(6) Mae hysbysiad i’w gyflwyno i’r awdurdod bilio o dan sylw drwy—
(a) ei gyfeirio at yr awdurdod; a
(b) ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa’r awdurdod drwy’r post neu drwy gyfathrebiad electronig.
(7) Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i’w ystyried, oni phrofir i’r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.
(8) Pan fydd hysbysiad wedi ei roi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol i’r trethdalwr roi hysbysiadau pellach yn unol â’r erthygl hon mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol dilynol hynny y caiff yr awdurdod eu pennu o dro i dro.
15 
Mae’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 3 wedi eu dirymu ond maent yn parhau i fod yn gymwys i flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2018 neu cyn hynny.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
6 Rhagfyr 2017
ATODLEN 1
Erthygl 13
1 
Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.
2 
Cyfeiriadau (gan gynnwys codau post) yr hereditamentau a, phan fo hynny’n hysbys, rifau’r cyfrifon ardrethu annomestig.
3 
Y dyddiad y daeth y trethdalwr yn atebol i dalu ardrethi annomestig am yr hereditamentau, neu y bydd yn dod yn atebol i’w talu.
4 
Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau drwy unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditamentau a grybwyllir ym mharagraff 2.
5 
Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
6 
Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
7 
Dyddiad yr hysbysiad.
ATODLEN 2
Erthygl 14
1 
Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (pan fo hynny’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (pan fo hynny’n gymwys) y trethdalwr.
2 
Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef a, phan fo hynny’n hysbys, rif y cyfrif ardrethu annomestig.
3 
Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—
(a) cadarnhad—
(i) bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(ii) nad yw’r hereditament yn hereditament a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn;
(iii) bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a
(b) enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.
4 
Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.
5 
Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a) y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu
(b) y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.
6 
Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw’n ystyried y gallai beidio â bod yn gymwys mwyach i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.
7 
Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.
8 
Llofnod y trethdalwr neu’r person sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.
9 
Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.
10 
Dyddiad yr hysbysiad.
ATODLEN 3
Erthygl 15


Gorchmynion sydd wedi eu dirymu Cyfeirnodau
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015 O.S. 2015/229 (Cy. 11)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016 O.S. 2016/32 (Cy. 13)
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2017 O.S. 2017/25 (Cy. 9)