
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2 
Mae adran 18(1) (datgelu a ganiateir) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (g);
(b) ym mharagraff (h) yn lle “.” rhodder “,”; ac
(c) ar ôl paragraff (h) mewnosoder—“
(i) os gwneir hynny i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, neu
(j) os gwneir hynny i Gyllid yr Alban mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC neu mewn cysylltiad â chasglu a rheoli treth ddatganoledig o fewn yr ystyr a roddir i “devolved tax” yn Neddf yr Alban 1998 (p. 46).”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2017