
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “datganiad blynyddol” (“annual return”) yw’r datganiad blynyddol y mae rhaid i ddarparwr gwasanaeth ei gyflwyno i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
3 
Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys disgrifiad o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer nodi, cynllunio a diwallu anghenion hyfforddiant staff a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â phob un o’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu.
4 
Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys disgrifiad o’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer recriwtio a chadw staff a gyflogir gan y darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu.
5 
Rhaid i ddatganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodlen mewn perthynas â phob un o’r mannau y darperir y gwasanaeth ynddo.
6 
Rhaid i ddatganiad blynyddol a gyflwynir gan ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodlen mewn perthynas â phob un o’r mannau y darperir y gwasanaeth mewn perthynas ag ef.
7 
Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan y darparwr gwasanaeth sy’n cadarnhau ei fod wedi darllen yr wybodaeth ac yn cytuno â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad blynyddol sy’n ymwneud â’r gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i’w darparu.
8 
Rhaid i ddatganiad blynyddol gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan bob unigolyn cyfrifol sy’n cadarnhau ei fod wedi darllen yr wybodaeth ac yn cytuno â’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad blynyddol sy’n ymwneud â’r man y mae wedi ei ddynodi ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef gan y darparwr gwasanaeth fel yr unigolyn cyfrifol.
9 
Rhaid i ddatganiad blynyddol fod ar ffurf datganiad ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi eu sefydlu at ddiben hysbysu darparwyr gwasanaethau am y gofynion ar gyfer llunio a chyflwyno datganiadau blynyddol.
10 
Rhaid i ddatganiad blynyddol gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 56 o ddiwrnodau i ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.
Huw Irranca-Davies
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Tachwedd 2017
YR ATODLEN
Rheoliadau 5 a 6
1 
Manylion cyswllt.
2 
Enw’r unigolyn cyfrifol.
3 
Enw’r rheolwr.
4 
Cyfanswm nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (gan gynnwys swyddi sydd wedi eu llenwi a swyddi gwag).
5 
Nifer y swyddi sydd wedi eu llenwi a’r swyddi gwag ym mhob un o’r categorïau a ganlyn—
(a) rheolwr;
(b) dirprwy Reolwr;
(c) staff goruchwylio eraill;
(d) staff gofal nyrsio;
(e) nyrsys cofrestredig;
(f) uwch staff gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(g) staff gofal cymdeithasol eraill sy’n darparu gofal uniongyrchol;
(h) staff domestig;
(i) staff arlwyo;
(j) mathau eraill o staff nad ydynt wedi eu rhestru uchod.
6 
Os yw nifer y staff a gyflogir yn cynnwys staff o fath nad yw wedi ei restru ym mharagraff 5(a) i (i), manylion y math neu’r mathau o’r staff hynny.
7 
Cyfradd trosiant staff.
8 
Y mathau o drefniadau contractiol y mae staff wedi eu cyflogi arnynt a nifer y staff a gyflogir ar bob math o drefniant contractiol ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
9 
Cymwysterau’r staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5.
10 
Manylion unrhyw hyfforddiant perthnasol y mae staff a gyflogir ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5 wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cyflogi ynddo gan y darparwr gwasanaeth.
11 
Manylion y raddfa ffioedd sy’n daladwy gan ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
12 
Manylion yr ieithoedd a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth.
13 
Manylion unrhyw ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn rhai llafar a ddefnyddir.
14 
Cyfanswm nifer y cwynion ffurfiol a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a chyfran y cwynion hynny na chawsant eu cadarnhau, a gafodd eu cadarnhau’n rhannol ac a gafodd eu cadarnhau.
15 
Manylion y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth ynghylch gweithrediad y gwasanaeth rheoleiddiedig.
16 
Patrymau sifft nodweddiadol y staff a gyflogir, gan ddangos nifer y staff ym mhob un o’r categorïau a restrir ym mharagraff 5(d), (e), (f) ac (g) sydd ar ddyletswydd yn ystod pob sifft.
17 
Nifer yr ystafelloedd gwely sengl ac ystafelloedd gwely a rennir.
18 
Nifer yr ystafelloedd gwely a chanddynt gyfleusterau en suite.
19 
Nifer y lolfeydd/ystafelloedd bwyta cymunedol.
20 
Nifer yr ystafelloedd ymolchi a chanddynt gyfleusterau cymorth ymolchi.
21 
Manylion unrhyw le yn yr awyr agored y mae gan y preswylwyr fynediad iddo.
22 
Manylion unrhyw gyfleusterau eraill y mae gan y preswylwyr fynediad atynt.