
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Tachwedd 2017.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesiad risg” (“risk assessment”) yw asesiad risg a gyflawnir o dan reoliad 6;
 ystyr “crynodiad neu werth rhagnodedig” (“prescribed concentration or value”) mewn perthynas ag unrhyw baramedr, yw’r crynodiad neu’r gwerth uchaf neu isaf a bennir mewn perthynas â’r paramedr hwnnw yn y Tablau yn Atodlen 1 fel y’u mesurir drwy gyfeirio at yr uned fesur a bennir felly, ac a ddarllenir, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
 ystyr “cyflenwad dŵr preifat” (“private water supply”) yw cyflenwad dŵr ac eithrio cyflenwad a ddarperir yn uniongyrchol gan ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr, ac sy’n cynnwys yr holl asedau ffisegol o’r man tynnu dŵr i’r man defnyddio, gan gynnwys yr holl bibellau, ffitiadau a thanciau cysylltiedig;
 ystyr “defnyddiwr” (“consumer”) yw person y darperir cyflenwad dŵr preifat iddo at ddibenion yfed y dŵr gan bobl;
 ystyr “diheintio” (“disinfection”) yw proses o drin dŵr er mwyn dileu pob micro-organedd pathogenig a phob paraseit pathogenig a fyddai fel arall yn bresennol yn y dŵr, neu eu gwneud yn anniweidiol i iechyd dynol;
 ystyr “dos dangosol” (“indicative dose”) yw’r dos effeithiol cyflawnedig ar gyfer 1 flwyddyn o amlyncu o ganlyniad i’r holl radioniwclidau o darddiad naturiol ac artiffisial y canfyddwyd eu bod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl, ac eithrio tritiwm, potasiwm-40, radon a chynhyrchion dadfeilio radon byrhoedlog;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991;
 mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” (“monitoring for Group A parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;
 mae i “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” (“monitoring for Group B parameters”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;
 ystyr “NTU” (“NTU”) yw Uned Cymylogrwydd Neffelomedrig;
 ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodoledd, elfen, organedd neu sylwedd a restrir yng ngholofn gyntaf y Tablau yn Atodlen 1 wedi eu darllen, pan fo’n briodol, gyda’r nodiadau i’r Atodlen honno a’r Tablau hynny;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—
(a) perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) mangreoedd y cyflenwir dŵr iddynt drwy gyflenwad dŵr preifat at ddibenion domestig neu ddibenion cynhyrchu bwyd;
(b) perchennog a meddiannydd (a gaiff fod yr un person neu’n bersonau gwahanol) tir y mae unrhyw ran o’r cyflenwad wedi ei leoli arno;
(c) unrhyw berson arall sy’n arfer pwerau rheoli neu reolaeth mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw;
 ystyr “y Prif Arolygydd Dŵr Yfed” (“the Chief Inspector of Drinking Water”) yw’r person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86(1B) o’r Ddeddf (aseswyr ar gyfer gorfodi ansawdd dŵr);
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010;
 mae i “tenantiaeth ddomestig” (“domestic tenancy”) yr un ystyr ag a roddir yn adran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (ystyr y prif dermau).
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat a fwriedir i’w yfed gan bobl; ac at y dibenion hyn, ystyr “dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl” yw—
(a) pob dŵr, naill ai yn ei gyflwr gwreiddiol neu ar ôl ei drin, a fwriedir ar gyfer yfed, coginio, paratoi bwyd neu ddibenion domestig eraill, beth bynnag fo’i darddiad a pha un ai y’i cyflenwir o rwydwaith dosbarthu, neu o dancer neu mewn poteli neu gynwysyddion;
(b) pob dŵr a ddefnyddir mewn unrhyw fenter cynhyrchu bwyd ar gyfer gweithgynhyrchu, prosesu, cyffeithio neu farchnata cynhyrchion neu sylweddau a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl oni bai, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch hylendid bwyd, bod yr awdurdod cymwys wedi ei fodloni nad yw ansawdd y dŵr yn gallu effeithio ar iachusrwydd y bwyd yn ei ffurf orffenedig.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â—
(a) dŵr y mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 yn gymwys iddo;
(b) dŵr sy’n gynnyrch meddyginiaethol yn yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn Neddf Meddyginiaethau 1968;
(c) dŵr a ddefnyddir yn unig ar gyfer golchi cnwd ar ôl ei gynaeafu, ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd y cnwd, nac unrhyw fwyd neu ddiod sy’n tarddu o’r cnwd, ar gyfer ei fwyta neu ei yfed gan bobl.
4 

(1) Mae cyflenwad dŵr preifat i’w ystyried yn iachus os bodlonir yr holl amodau a ganlyn—
(a) nad yw’n cynnwys unrhyw ficro-organedd, parasit neu sylwedd mewn crynodiad neu werth a fyddai, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unrhyw sylwedd arall, yn peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b) ei fod yn cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer pob paramedr; ac
(c) bod y dŵr yn bodloni’r fformiwla “[nitrad]/50 + [nitraid]/3 ≤ 1”, pan fo’r bachau petryal yn dynodi’r crynodiadau mewn mg/1 ar gyfer nitrad (NO3) a nitraid (NO2).

(2) Ystyr cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ddŵr afiachus yw nad yw’r gofyniadau ym mharagraff (1) wedi eu bodloni.
5 

(1) Ni chaiff unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir wrth baratoi neu ddosbarthu cyflenwad dŵr preifat, neu amhurdebau sy’n gysylltiedig â chynhyrchion neu sylweddau o’r fath, fod yn bresennol mewn dŵr yn y man defnyddio ar lefelau a fyddai’n ei wneud yn afiachus neu’n peri perygl posibl i iechyd dynol.
(2) Pan fo diheintio yn rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i’r person perthnasol—
(a) cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
(b) sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio;
(c) cadw cofnodion o’r gwaith cynnal a monitro a gyflawnir er mwyn gwirhau effeithiolrwydd y broses ddiheintio; a
(d) cadw copïau o’r cofnodion hynny ar gael i’r awdurdod lleol edrych arnynt, am gyfnod o 5 mlynedd.
6 

(1) Rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg ar gyfer pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal, ac adolygu a diweddaru’r asesiad risg hwnnw bob 5 mlynedd (neu’n gynharach os yw o’r farn bod yr asesiad risg presennol yn annigonol).
(2) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl, nid yw’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys ond pan fo’r cyflenwad hwnnw’n cael ei ddarparu fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus, neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.
(3) Yn achos cyflenwad a ddarperir i annedd sengl nad yw’n dod o fewn paragraff (2), rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad risg os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
(4) Rhaid i asesiad risg—
(a) cadarnhau a oes risg sylweddol o gyflenwi dŵr a fyddai’n peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b) bodloni gofynion y Canllawiau Diogelwch Cyflenwadau Dŵr Yfed ar gyfer Rheoli Risgiau ac Argyfyngau; ac
(c) ystyried canlyniadau’r rhaglenni monitro a sefydlwyd gan ail baragraff Erthygl 7(1) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor.
(5) Rhaid i awdurdod lleol, o fewn 12 mis o gynnal yr asesiad risg, ddarparu crynodeb o ganlyniadau’r asesiad hwnnw i Weinidogion Cymru.
RHAN 2
7 

(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r holl gyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal yn unol â’r Rhan hon wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 77(1) o’r Ddeddf (swyddogaethau cyffredinol awdurdodau lleol mewn perthynas ag ansawdd dŵr).
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) drwy sefydlu rhaglen fonitro ar ffurf naill ai—
(a) casglu a dadansoddi samplau dŵr ar wahân;
(b) mesuriadau a gofnodir drwy broses fonitro barhaus; neu
(c) cyfuniad o’r dulliau yn is-baragraffau (a) a (b).
(3) Caiff rhaglenni monitro gynnwys y naill neu’r llall o’r dulliau a ganlyn, neu’r ddau ohonynt—
(a) edrych ar gofnodion o weithrediad yr offer a’i statws o ran cynnal a chadw;
(b) arolygu’r dalgylch, a’r seilwaith tynnu, trin, storio a dosbarthu dŵr.
8 
Pan fo dŵr yn cael ei gyflenwi gan ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr ac yna’n cael ei ddosbarthu ymhellach gan berson ac eithrio ymgymerwr dŵr neu drwyddedai cyflenwi dŵr, rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni unrhyw waith monitro y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat, ac eithrio fel a bennir yn rheoliad 8—
(a) sy’n cyflenwi cyfaint dŵr dyddiol cyfartalog o 10m3 neu ragor; neu
(b) sy’n cyflenwi dŵr fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol fonitro cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn y rheoliad hwn yn unol ag Atodlen 2 a chyflawni unrhyw waith monitro ychwanegol y mae’r asesiad risg yn dangos ei fod yn angenrheidiol.
10 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas defnyddir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus (os felly mae rheoliad 9 yn gymwys) neu fel rhan o denantiaeth ddomestig (os felly mae rheoliad 11 yn gymwys).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) caiff yr awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad yn unol â’r gofynion yn rheoliad 11(1); a
(b) rhaid i’r awdurdod lleol wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannydd yr annedd honno.
11 

(1) Yn achos cyflenwad dŵr preifat nad yw rheoliadau 8, 9 neu 10 yn ei gwmpasu, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro ar gyfer—–
(a) dargludedd;
(b) enterococi;
(c) Escherichia coli (E. coli);
(d) crynodiad ïonau hydrogen;
(e) cymylogrwydd;
(f) unrhyw baramedr yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 y nodir yn yr asesiad risg bod risg y gallai fethu â chydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno; ac
(g) unrhyw beth arall a nodir yn yr asesiad risg y gallai beri perygl posibl i iechyd dynol.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gyflawni’r gwaith monitro sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn bob 5 mlynedd o leiaf, ac yn amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.
12 

(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal (ac eithrio cyflenwad y mae rheoliad 13 yn gymwys iddo) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 3.
(2) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 3, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.
(3) Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am ba gyfnod bynnag ag y gwêl yn briodol, benderfynu eithrio’r paramedr dan sylw o’r ddyletswydd fonitro ym mharagraff (1).
(4) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—
(a) ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6); a
(b) gan ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru sail ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a gyflawnir yn unol â pharagraff (4)(a)).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu i’r Comisiwn Ewropeaidd sail y penderfyniad o dan baragraff (3) ynghyd â’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.
(7) Pan—
(a) fo penderfyniad wedi ei wneud yn flaenorol o dan baragraff (3), a
(b) na fo’r awdurdod lleol yn fodlon mwyach bod sail y penderfyniad yn bodoli,
ni fydd yr eithriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig yn unol â hynny.
(8) Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod y crynodiad o radioniwclidau mewn cyflenwad yn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol gwaith samplu a dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, gan ystyried y risg i iechyd dynol.
13 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i gyflenwad dŵr preifat i annedd sengl nas darperir fel rhan o weithgarwch masnachol neu gyhoeddus neu fel rhan o denantiaeth ddomestig.
(2) Caiff awdurdod lleol fonitro cyflenwad sy’n dod o fewn paragraff (1) ar gyfer y paramedrau sydd wedi eu cynnwys yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 3 a Rhan 3 o Atodlen 4, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo wneud hynny gan y perchennog neu’r meddiannydd.
14 

(1) Pan fo awdurdod lleol yn monitro cyflenwad dŵr preifat, rhaid iddo gymryd sampl—
(a) os yw’r dŵr wedi ei gyflenwi at ddibenion domestig, o dap a ddefnyddir fel arfer i gyflenwi dŵr i’w yfed gan bobl, ac sydd, os oes mwy nag un tap, yn gynrychioliadol o’r dŵr a gyflenwir i’r fangre;
(b) os defnyddir y dŵr mewn menter cynhyrchu bwyd, yn y man y’i defnyddir yn y fenter;
(c) os cyflenwir y dŵr o dancer, yn y man y daw allan o’r tancer;
(d) mewn man addas yn unrhyw achos arall.
(2) Rhaid cymryd hapsampl yn ystod y dydd o un litr o gyfaint o dap y defnyddiwr, heb ei lifolchi ymlaen llaw, at ddiben samplu ar gyfer y paramedrau copr, plwm a nicel.
(3) O ran samplu o dan y rheoliad hwn—
(a) ar gyfer paramedrau cemegol yn y rhwydwaith dosbarthu, rhaid ei gyflawni yn unol ag ISO 5667-5, ac eithrio pan fo’r sampl yn cael ei chymryd o dap defnyddiwr;
(b) ar gyfer paramedrau microbiolegol, rhaid ei gyflawni yn unol ag—
(i) EN ISO 19458 diben samplu A yn y rhwydwaith dosbarthu; a
(ii) EN ISO 19458 diben samplu B wrth dap y defnyddiwr.
(4) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y sampl yn cael ei dadansoddi yn unol ag Atodlen 4.
15 

(1) Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol o gyflenwad dŵr preifat sydd i’w ddefnyddio am y tro cyntaf (neu am y tro cyntaf ar ôl peidio â chael ei ddefnyddio am gyfnod o 12 mis neu ragor), neu sy’n cael ei ddefnyddio felly, rhaid cydymffurfio â gofynion rheoliadau 6 i 14 ac 16 i 19 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Ni chaniateir dechrau defnyddio neu ddefnyddio cyflenwad dŵr preifat hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw’r cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol.
16 

(1) Rhaid i awdurdod lleol wneud a chadw cofnodion mewn cysylltiad â phob cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn unol ag Atodlen 5.
(2) Erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, rhaid i awdurdod lleol—
(a) anfon copi o’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed; a
(b) anfon copi o’r cofnodion hynny at Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt.
RHAN 3
17 
Os yw awdurdod lleol o’r farn bod cyflenwad dŵr preifat yn ei ardal yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid iddo gymryd camau priodol yn brydlon i sicrhau bod y bobl sy’n debygol o yfed dŵr ohono—
(a) yn cael gwybod bod y cyflenwad yn peri perygl posibl i iechyd dynol;
(b) pan fo modd, yn cael gwybod am natur a graddau’r perygl posibl; ac
(c) yn cael cyngor i’w caniatáu i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath.
18 

(1) Pan fo awdurdod lleol yn amau bod cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio ag—
(a) gofynion rheoliad 4, neu
(b) y crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Rhan 2 neu Ran 3 o Atodlen 1 ar gyfer paramedr dangosydd,
rhaid iddo gynnal ymchwiliad i gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant hwnnw.
(2) Unwaith y bydd awdurdod lleol wedi cynnal ymchwiliad ac wedi cadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, rhaid iddo weithredu yn unol â pharagraffau (3) i (5).
(3) Os achoswyd y methiant o ganlyniad i’r system ddosbarthu o fewn mangre ddomestig (pa un a yw’r dŵr ar gael i’r cyhoedd yn y fangre honno ai peidio) rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r bobl sy’n debygol o gael eu heffeithio yn brydlon a chynnig cyngor iddynt ar y mesurau sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd dynol.
(4) Yn ogystal â’r ddyletswydd ym mharagraff (3) (pan fo’n gymwys), rhaid i’r awdurdod lleol weithredu yn unol â pharagraff (5) os achoswyd y methiant o ganlyniad i—
(a) y system ddosbarthu mewn mangre ddomestig pan fo’r dŵr ar gael i’r cyhoedd; neu
(b) system ddosbarthu nad yw mewn mangre ddomestig.
(5) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a) os yw’r dŵr yn peri perygl posibl i iechyd dynol a bod yr amodau yn rheoliad 20 wedi eu bodloni, gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwnnw; neu
(b) o fewn 28 o ddiwrnodau o gadarnhau’r hyn a achosodd y methiant, ac os nad yw camau unioni priodol wedi eu cymryd, gyflwyno hysbysiad yn unol ag adran 80 o’r Ddeddf (pwerau unioni awdurdodau lleol mewn perthynas â chyflenwadau preifat) oni bai bod yr awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad yn unol â rheoliad 19(2).
(6) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys a bod rhwymedigaethau monitro awdurdod lleol mewn cysylltiad â’r cyflenwad wedi eu lleihau (neu eu hamrywio fel arall) yn flaenorol o dan Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, rhaid i’r fath amrywiad ddod i ben ar unwaith, a rhaid adfer yr amlderau safonol a amlinellir yn Nhablau 2 a 3 yn Atodlen 2.
19 

(1) Caiff unrhyw berson perthnasol wneud cais i awdurdod lleol am awdurdodiad o dan y rheoliad hwn.
(2) Caiff awdurdod lleol roi awdurdodiad ar gyfer safonau gwahanol o dan y rheoliad hwn—
(a) os yr unig beth sy’n achosi i’r dŵr fod yn afiachus yw na chydymffurfir â pharamedr yn Nhabl B o Ran 1 o Atodlen 1 (paramedrau cemegol);
(b) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â’r holl ddefnyddwyr dŵr y bydd yr awdurdodiad yn effeithio arnynt a chydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wedi ystyried eu safbwyntiau;
(c) os nad yw rhoi’r awdurdodiad yn achosi perygl posibl i iechyd dynol; a
(d) oni ellir cynnal y cyflenwad dŵr preifat drwy unrhyw ddulliau rhesymol eraill.
(3) Rhaid i awdurdodiad ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gymryd camau dros gyfnod o amser i sicrhau y cydymffurfir â’r paramedrau angenrheidiol, a rhaid i’r awdurdodiad bennu—
(a) y person y rhoddir yr awdurdodiad iddo;
(b) y cyflenwad dŵr preifat dan sylw;
(c) y sail ar gyfer rhoi’r awdurdodiad;
(d) y paramedrau dan sylw, y canlyniadau monitro perthnasol blaenorol, a’r gwerthoedd uchaf a ganiateir o dan yr awdurdodiad;
(e) yr ardal ddaearyddol, amcangyfrif o faint o ddŵr a gyflenwir bob diwrnod, nifer y personau y cyflenwir dŵr iddynt, a pha un a effeithir ai peidio ar unrhyw fenter cynhyrchu bwyd;
(f) cynllun monitro priodol, gan fonitro’n amlach pan fo angen;
(g) crynodeb o’r cynllun i weithredu’r mesurau unioni angenrheidiol, gan gynnwys amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith, ac amcangyfrif o’r gost, a darpariaethau ar gyfer adolygu cynnydd; a
(h) hyd yr awdurdodiad.
(4) Os yw awdurdod lleol yn rhoi awdurdodiad, ac os yw’r person y’i rhoddir iddo yn gweithredu yn unol â’r amserlen a bennir yn yr awdurdodiad, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf ynghylch y materion a bennir yn yr awdurdodiad heb yn gyntaf ddiwygio neu ddirymu’r awdurdodiad.
(5) Rhaid i hyd yr awdurdodiad fod mor fyr â phosibl, a pha un bynnag ni chaiff fod yn hwy na 3 blynedd.
(6) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y bobl a gyflenwir yn cael gwybod yn brydlon am yr awdurdodiad a’i amodau a sicrhau, pan fo’n angenrheidiol, y rhoddir cyngor i grwpiau penodol y gallai’r awdurdodiad beri risg arbennig iddynt.
(7) Os yw’r cyflenwad dŵr preifat yn fwy na 1,000 m3 y diwrnod ar gyfartaledd neu os yw’n gwasanaethu mwy na 5,000 o bobl rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r awdurdodiad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru o fewn 1 mis.
(8) Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynnydd y camau unioni yn barhaus.
(9) Os oes angen, gyda chydsyniad ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff yr awdurdod lleol roi ail awdurdodiad am hyd at 3 blynedd ychwanegol, ond os yw’n gwneud hynny rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon copi o’r awdurdodiad ynghyd â sail ei benderfyniad at y Prif Arolygydd Dŵr Yfed a Gweinidogion Cymru.
(10) Caiff yr awdurdod lleol ddirymu neu ddiwygio’r awdurdodiad ar unrhyw adeg, ac yn benodol, caiff ei ddiddymu neu ei ddiwygio os na chedwir at yr amserlen ar gyfer y gwaith unioni.
RHAN 4
20 

(1) Os yw cyflenwad dŵr preifat yn peri perygl posibl i iechyd dynol, rhaid i awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad o dan y rheoliad hwn i’r person perthnasol yn hytrach na chyflwyno hysbysiad o dan adran 80 o’r Ddeddf.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a) nodi’r cyflenwad dŵr preifat y mae’n ymwneud ag ef;
(b) pennu’r sail dros gyflwyno’r hysbysiad;
(c) gwahardd defnyddio’r cyflenwad hwnnw neu gyfyngu ar y defnydd ohono;
(d) pennu pa gamau eraill sy’n angenrheidiol er mwyn—
(i) diogelu iechyd dynol;
(ii) adfer iachusrwydd y cyflenwad dŵr preifat;
(iii) cynnal iachusrwydd parhaus y cyflenwad dŵr preifat ar ôl ei adfer; ac
(e) pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau sy’n ofynnol.
(3) Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef yn brydlon, a darparu unrhyw gyngor sydd ei angen.
(4) Caiff yr hysbysiad fod yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei ddiwygio drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i’r awdurdod lleol ddirymu’r hysbysiad cyn gynted ag y bydd yn dod yn ymwybodol nad oes perygl posibl i iechyd dynol mwyach.
(6) Mae’n drosedd i berson perthnasol y cyflwynir hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw.
(7) Pan fo person perthnasol (“P”) yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1), caiff yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad gymryd y fath gamau ei hun.
(8) Pan fo unrhyw gamau yn cael eu cymryd gan awdurdod lleol o dan baragraff (7) mewn perthynas ag unrhyw fangre—
(a) caiff yr awdurdod lleol adennill oddi wrth P unrhyw dreuliau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth gymryd y camau hynny; a
(b) pan fo person, ac eithrio’r awdurdod lleol, yn atebol i wneud taliadau i P, bernir bod symiau a delir yn rhinwedd is-baragraff (a) yn dreuliau yr eir iddynt wrth gymryd y camau gan P.
21 

(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 apelio i lys ynadon o fewn 28 diwrnod ar ôl cyflwyno’r hysbysiad.
(2) Mae’r weithdrefn apelio a ddilynir mewn llys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf achwyniad, ac mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i’r achosion.
(3) Bydd hysbysiad yn parhau mewn grym oni chaiff ei atal gan y llys.
(4) Mewn apêl, caiff y llys naill ai ddileu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, gydag addasiadau neu heb addasiadau.
22 

(1) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan reoliad 20 yn atebol—
(a) o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau; neu 

(b) o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.
(2) Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd cymryd arno ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,
mae’r person hwnnw yn euog o’r drosedd yn ogystal â’r corff corfforaethol.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
RHAN 5
23 
Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd.
24 

(1) Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau 2010;
(b) Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010;
(c) Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010; a
(d) Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae paragraff 142 o Atodlen 2 i Orchymyn yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Triniaethau (Dileu) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) 2013 wedi ei ddirymu.
25 
Yn rheoliad 21(7)(b) o Reoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010, yn lle “regulation 15 or 16 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2010” rhodder “regulation 18 of the Private Water Supplies (Wales) Regulations 2017”.
26 

(1) Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a) mae awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(2) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(2) o’r Rheoliadau hyn;
(b) mae ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 17(9) o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i’w gymryd i fod yn ail awdurdodiad a roddir o dan reoliad 19(9) o’r Rheoliadau hyn;
(c) mae hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010 sydd mewn grym yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym (“hysbysiad presennol”) i’w gymryd i fod yn hysbysiad a gyflwynir o dan reoliad 20 o’r Rheoliadau hyn.
(2) Caniateir gwneud apêl o dan reoliad 21(1) o’r Rheoliadau hyn yn erbyn hysbysiad presennol os nad yw’r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apêl o dan reoliad 19(1) o Reoliadau 2010 wedi dod i ben ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(3) O ran awdurdod lleol sydd wedi—
(a) lleihau amlder samplu ar gyfer paramedr o dan baragraff 2(2) yn Rhan 1 o Atodlen 2 (monitro) i Reoliadau 2010, neu
(b) eithrio paramedr o waith monitro archwilio o dan baragraff 3(3) yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010,
rhaid iddo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, ddod ag unrhyw leihad neu eithriad o’r fath i ben, ac yn lle hynny rhaid iddo ddechrau monitro yn unol â’r ddarpariaeth a wneir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(4) Caiff awdurdod lleol ddibynnu ar unrhyw ddata a gesglir yn ystod y cyfnod o 36 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym i gyfiawnhau unrhyw amrywiad o ran monitro o dan Ran 4 o Atodlen 2.
(5) Mae Tabl 2 (nodweddion perfformiad rhagnodedig ar gyfer dulliau dadansoddi) yn Atodlen 4 yn parhau mewn grym hyd 23:59 ar 31 Rhagfyr 2019, a chaiff ei ddirymu at bob diben ar ôl hynny.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2017
ATODLEN 1
Rheoliadau 2, 11, 12, 13, 18 a 19
RHAN 1

TABL A:
Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig Crynodiad neu werth uchaf Unedau Mesur
Escherichia coli (E. coli) 0 Nifer/100ml
Enterococi 0 Nifer/100ml
Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion:
Escherichia coli (E.coli) 0 Nifer/250ml
Enterococi  Nifer/250ml
Pseudomonas aeruginosa 0 Nifer/250ml
Cyfrifiad cytrefi 22ºC 100 Nifer/ml

TABL B:
Paramedrau crynodiadau neu werthoedd rhagnodedig  Crynodiad neu werth uchaf Unedau Mesur
Acrylamid   0.10 µg/1
Antimoni  5.0 µg/1
Arsenig  10 µg/1
Bensen  1.0 µg/1
Benso(a)pyren  0.010 µg/1
Boron  1.0 mg/1
Bromad  10 µg/1
Cadmiwm  5.0 µg/1
Cromiwm  50 µg/1
Copr  2.0 mg/1
Cyanid  50 µg/1
1.2 dicloroethan  3.0 µg/1
Epichlorohydrin  0.10 µg/1
Fflworid  1.5 mg/1
Plwm  10 µg/1
µg/1
Mercwri  1.0 µg/1
Nicel  20 µg/1
Nitrad   50 mg/l
Nitraid   0.5 (neu 0.1 yn achos gweithfeydd trin) mg/l
Plaleiddiaid — Aldrin 0.030 µg/1
 Dieldrin 0.030 µg/1
 Heptaclor 0.030 µg/1
 Heptaclor epocsid 0.030 µg/1
 Plaleiddiaid eraill 0.10 µg/1
 Cyfanswm plaleiddiaid  0.50 µg/1
Hydrocarbonau polysyclig aromatig   0.10 µg/1
Seleniwm  10 µg/1
Tetracloroethen a Thricloroethen  10 µg/1
Trihalomethanau: Cyfanswm  100 µg/1
Finyl clorid  0.50 µg/1





Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.


Mae’r gwerth paramedrig yn gymwys i swm y crynodiadau o’r cyfansoddion unigol a ganfyddir ac a feintiolir yn y broses fonitro.

Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau Mesur
Alwminiwm 200 µg/1
Lliw 20 mg/l Pt/Co
Haearn 200 µg/1
Manganîs 50 µg/1
Arogl Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal 
Sodiwm 200 mg/l
Blas Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal 
Tetracloromethan 3 µg/1
Cymylogrwydd 4 NTU
RHAN 2

TABL C:
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau Mesur
Amoniwm 0.50 mg/l
Clorid 250 mg/l
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) 0 Nifer/100ml
Bacteria colifform 0 Nifer/100ml (Nifer/250ml yn achos dŵr a roddir mewn poteli neu gynwysyddion)
Cyfrifau cytrefi Dim newid annormal Nifer/ml ar 22°C
Dargludedd 2500 µS/cm ar 20ºC
Ïonau hydrogen 9.5 (gwerth uchaf) Gwerth pH
 6.5 (gwerth isaf) (yn achosdŵr llonydd a roddir mewn poteli neu gynwysyddion y gwerth isaf yw 4.5) Gwerth pH
Sylffad 250 mg/l
Cyfanswm carbon organig (CCO) Dim newid annormal mgC/l
Cymylogrwydd 1 NTU


RHAN 3

TABL D:
Paramedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau Mesur
Dos dangosol (ar gyfer ymbelydredd) 0.10 mSv
Radon 100 Bq/l
Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd) 100 Bq/l


ATODLEN 2
Rheoliadau 2 , 9, 18 a 26
RHAN 1
1 

(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o dan yr amgylchiadau a restrir yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y paramedr hwnnw yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw er mwyn—
(a) canfod pa un a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd yn Atodlen 1 ai peidio;
(b) darparu gwybodaeth am ansawdd organoleptig a microbiolegol y dŵr; ac
(c) cadarnhau pa mor effeithiol fu’r driniaeth a roddwyd i’r dŵr, gan gynnwys y diheintio.

Tabl 1
Paramedrau Amgylchiadau
Alwminiwm Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr
Amoniwm Os defnyddir cloramineiddio
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Bacteria colifform Ym mhob cyflenwad
Cyfrifau cytrefi Ym mhob cyflenwad
Lliw Ym mhob cyflenwad
Dargludedd Ym mhob cyflenwad
Escherichia coli (E. coli) Ym mhob cyflenwad
Crynodiad ïonau hydrogen Ym mhob cyflenwad
Haearn Os y’i defnyddir fel cemegyn trin dŵr
Manganîs Pan fo’r dŵr yn tarddu o ddyfroedd wyneb, neu y dylanwedir arno gan ddyfroedd wyneb
Nitrad Os defnyddir cloramineiddio
Nitraid Os defnyddir cloramineiddio
Arogl Ym mhob cyflenwad
Pseudomonas aeruginosa Yn achos dŵr mewn poteli neu gynwysyddion yn unig
Blas Ym mhob cyflenwad
Cymylogrwydd Ym mhob cyflenwad
2 
Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp A mor aml ag a bennir yn Nhabl 2.

Tabl 2
Cyfaint m3/diwrnod Amlder samplu fesul blwyddyn
≤ 10 1
˃ 10 ≤ 100 2
˃ 100 ≤ 1,000 4
˃ 1,000 ≤ 2,000 10
˃ 2,000 ≤ 3,000 13
˃ 3,000 ≤ 4,000 16
˃ 4,000 ≤ 5,000 19
˃ 5,000 ≤ 6,000 22
˃ 6,000 ≤ 7,000 25
˃ 7,000 ≤ 8,000 28
˃ 8,000 ≤ 9,000 31
˃ 9,000 ≤ 10,000 34
˃ 10,000 4 + 3 am bob 1,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 1,000 m3/diwrnod)
RHAN 2
3 

(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B yn unol â’r Rhan hon.
(2) Ystyr “monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B” yw samplu ar gyfer pob paramedr a restrir yn Rhan 1 neu 2 o Atodlen 1 (ac eithrio paramedrau Grŵp A sydd eisoes yn cael eu samplu o dan Ran 1 o’r Atodlen hon)—
(a) er mwyn darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganfod pa un a yw’r cyflenwad dŵr preifat yn bodloni pob crynodiad, gwerth neu gyflwr a bennir yn y naill neu’r llall o’r Rhannau hynny o’r Atodlen honno ai peidio; a
(b) os defnyddir diheintio, rhaid gwirio bod cyn lleied o sgil-gynhyrchion diheintio â phosibl heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio.
4 
Rhaid cyflawni gwaith samplu ar gyfer paramedrau Grŵp B mor aml ag a bennir yn Nhabl 3.

Tabl 3
Cyfaint m3/diwrnod Amlder samplu fesul blwyddyn
≤ 10 1
˃ 10 ≤ 3,300 2
˃ 3,300 ≤ 6,600 3
˃ 6,600 ≤ 100,000 4
˃ 10,000 ≤ 100,000 3 + 1 am bob 10,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosrif agosaf o 10,000 m3/diwrnod)
˃ 100,000 10 + 1 am bob 25,000 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’rlluosrif agosaf o 25,000 m3/diwrnod)
RHAN 3

Cyfainta y dŵr a gynhyrchir mewn poteli neu gynwysyddion bob dydd (m3) Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: nifer y samplau fesul blwyddyn Monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: nifer y samplau fesul blwyddyn
≤ 10 1 1
˃ 10 ≤ 60 12 1
˃ 60 1 am bob 5 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 5 m3/diwrnod) 1 am bob 100 m3/diwrnod o gyfanswm y cyfaint (gan dalgrynnu i fyny i’r lluosydd agosaf o 100 m3/diwrnod)
a Cyfrifir y cyfeintiau fel cyfartaleddau dros flwyddyn galendr.
RHAN 4
5 

(1) Caiff awdurdod lleol leihau’r amlderau samplu sy’n ofynnol ar gyfer paramedr (ac eithrio ar gyfer Escheria coli (E. coli)) o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a) bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 60% o’r gwerth paramedrig;
(b) bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl;
(c) bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried; a
(d) bod o leiaf un sampl yn cael ei chymryd fesul blwyddyn.
(2) Caiff awdurdod lleol bennu amlder samplu uwch ar gyfer unrhyw baramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.
6 

(1) Caiff awdurdod lleol beidio â monitro paramedr (ac eithrio Escheria coli (E. coli)) y mae fel arall yn ofynnol ei fonitro o dan Ran 1 neu 2 o’r Atodlen hon ar yr amod—
(a) bod y canlyniadau o samplau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r paramedr hwnnw a gasglwyd ar adegau rheolaidd dros y 3 blynedd flaenorol oll yn is na 30% o’r gwerth paramedrig;
(b) bod canlyniadau asesiad risg yn cael eu hystyried, a bod yr asesiad risg hwnnw yn dangos na ellir yn rhesymol ragweld bod unrhyw ffactor yn debygol o achosi dirywiad yn ansawdd y dŵr sydd i’w yfed gan bobl; ac
(c) bod data a gesglir wrth gyflawni ei rwymedigaethau monitro o dan y Rhan hon yn cael eu hystyried.
(2) Caiff awdurdod lleol fonitro ar gyfer priodoleddau, elfennau, organebau neu sylweddau eraill nad ydynt wedi eu cynnwys fel paramedr os yw’n ystyried bod hynny’n briodol gan ystyried canfyddiadau unrhyw asesiad risg.
ATODLEN 3
Rheoliadau 12 a 13
1 

(1) Mewn perthynas â’r paramedr radon yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—
(a) sicrhau y cynhelir arolwg cynrychioliadol yn unol ag is-baragraff (2) i ganfod pa mor debygol ydyw y bydd cyflenwad dŵr preifat yn methu â chydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b) cynnal gwaith monitro pan fo rheswm i gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, y gall y gwerth paramedrig ar gyfer y paramedr radon fod yn uwch na’r hyn a nodir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Rhaid llunio arolwg cynrychioliadol yn y fath fodd—
(a) er mwyn gallu canfod maint a natur y tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â radon mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl sy’n dod o fathau gwahanol o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn ardaloedd daearegol gwahanol; a
(b) y gellir nodi’r paramedrau sylfaenol, yn enwedig daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y creigiau neu’r pridd, a’r math o ffynnon, a defnyddio’r wybodaeth honno i gyfeirio camau gweithredu pellach i ardaloedd sy’n debygol o ddod i gysylltiad â lefel uchel o radon.
2 

(1) Mewn perthynas â’r paramedr tritiwm yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—
(a) cyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell anthropogenig o dritiwm neu radioniwclidau artiffisial eraill yn bresennol yn y dalgylch, ac ni ellir dangos ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b) cynnal ymchwiliad mewn perthynas â phresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill os yw’r crynodiad o dritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo monitro yn ofynnol o dan is-baragraff (1)—
(a) rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu
(b) rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg y cyfeirir ato o dan is-baragraff (1)(a) yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.
3 

(1) Mewn perthynas â’r paramedr dos dangosol yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol gyflawni gwaith monitro pan fo ffynhonnell ymbelydredd artiffisial neu lefel uwch o ymbelydredd naturiol yn bresennol ac ni ellir dangos, ar sail rhaglenni gwyliadwriaeth neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a gyflawnir yn unol â rheoliad 6, fod lefel y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â radioniwclidau artiffisial—
(a) rhaid cynnal y gwaith monitro mor aml ag a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu
(b) rhaid cynnal y gwaith monitro (yn achos cyflenwad dŵr preifat sy’n dod o fewn cwmpas rheoliad 11(1)) o leiaf bob 5 mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod hynny’n angenrheidiol.
(3) Pan fo monitro yn ofynnol gan is-baragraff (1) mewn perthynas â ffynhonnell lefel uwch o ymbelydredd naturiol—
(a) o ran yr awdurdod lleol—
(i) caiff benderfynu pa mor aml y dylid monitro yn ei ardal yn dibynnu ar y strategaeth sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod; a
(ii) rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am ei benderfyniad o dan is-baragraff (i); a
(b) caniateir i’r amlder monitro a benderfynir o dan baragraff (a)(i) amrywio o un mesuriad gwirio i’r amlderau a nodir ar gyfer monitro’r paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan is-baragraff (3) bod un mesuriad gwirio ar gyfer ymbelydredd naturiol yn briodol, rhaid i’r awdurdod lleol gynnal gwiriad pellach os oes unrhyw newid yn digwydd mewn perthynas â’r cyflenwad dŵr preifat sy’n debygol o ddylanwadu ar y crynodiadau o radioniwclidau yn y cyflenwad.
4 
Pan fo cyflenwad dŵr preifat wedi ei drin i leihau lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer cyfanswm y dos dangosol, radon a thritiwm yn unol â darpariaethau’r Rhan hon ac mor aml ag a nodir ar gyfer monitro paramedrau Grŵp B yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2 i wirhau effeithiolrwydd parhaus y driniaeth honno.
5 
Pan fo gwerth sampl benodol a gymerir gan awdurdod lleol yn uwch na’r gwerth paramedrig yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i Weinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod lleol, raddau’r gwaith ailsamplu sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gwerthoedd a fesurir yn gynrychioliadol o grynodiad gweithgarwch cyfartalog ar gyfer blwyddyn lawn.
ATODLEN 4
Rheoliadau 13 a 14
RHAN 1
1 

(1) Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gofynion priodol wedi eu bodloni wrth—
(a) cymryd, trin, cludo a storio sampl y mae’n ofynnol ei chymryd yn unol â’r Atodlen hon;
(b) dadansoddi sampl o’r fath; neu
(c) achosi i unrhyw sampl o’r fath gael ei chymryd, ei thrin, ei chludo, ei storio neu ei dadansoddi.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “y gofynion priodol” yw unrhyw rai o’r canlynol sy’n gymwys—
(a) bod y sampl yn gynrychioliadol o ansawdd y dŵr ar yr adeg y cymerir y sampl;
(b) bod y person sy’n cymryd y sampl yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas;
(c) nad yw’r sampl yn cael ei halogi wrth ei chymryd;
(d) bod y sampl yn cael ei chadw ar y fath dymheredd ac o dan y fath amodau sy’n sicrhau nad oes unrhyw newid perthnasol o ran y crynodiad neu’r gwerth ar gyfer y mesur neu’r arsylwi y mae’r sampl wedi ei bwriadu ar ei gyfer;
(e) bod y sampl yn cael ei dadansoddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ei chymryd—
(i) gan berson sy’n gymwys i wneud hynny, neu o dan oruchwyliaeth person o’r fath; a
(ii) gan ddefnyddio unrhyw gyfarpar sy’n addas ar gyfer y diben;
(f) rhaid i’r broses o gasglu a chludo samplau, neu fesuriadau a gofnodir drwy fonitro parhaus, fod yn ddarostyngedig i system reoli ansawdd i safon briodol sy’n cael ei gwirio o bryd i’w gilydd gan gorff achrededig addas.
(3) Wrth ymgymryd â’r gweithgarwch a ddisgrifir yn—
(a) is-baragraff (1)(a), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag unrhyw un neu ragor o EN ISO/IEC 17024, EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol;
(b) is-baragraff (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol ddangos cydymffurfedd ag EN ISO/EIC 17025, neu safon gyfatebol arall sy’n cael ei derbyn yn rhyngwladol.
(4) Caniateir gohirio gweithredu’r gofyniad yn is-baragraff (3)(a) am gyfnod o ddim mwy na 24 mis gan ddechrau ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “corff achrededig addas” yw unrhyw berson sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig.
2 
Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull dadansoddi wedi ei bennu yn ail golofn y tabl hwnnw.
3 

(1) Ar 31 Rhagfyr 2019 neu cyn hynny, caiff yr awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn naill ai is-baragraff (3) neu is-baragraff (4).
(2) Ar ôl 31 Rhagfyr 2019, rhaid i’r awdurdod lleol gymhwyso’r dull o ddadansoddi ar gyfer paramedrau cemegol a dangosyddion yn is-baragraff (4).
(3) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu—
(a) mesur crynodiadau a gwerthoedd gyda’r gwiredd a’r trachywiredd a bennir yn ail golofn a thrydedd golofn y tabl hwnnw, a
(b) canfod y paramedr ar y terfyn canfod a bennir ym mhedwaredd golofn y tabl hwnnw.
(4) Ar gyfer pob paramedr a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 yn Rhan 2 o’r Atodlen hon, mae’r dull yn un sy’n gallu mesur crynodiadau sy’n hafal â’r—
(a) gwerth paramedrig gyda therfyn meintioliad o 30% neu lai o’r gwerth paramedrig perthnasol (fel sydd wedi ei gynnwys yn Atodlen 1), a
(b) yr ansicrwydd mesuriadau yn ail golofn y tabl hwnnw.
(5) Rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir ar gyfer y paramedrau arogl a blas allu mesur gwerthoedd sy’n hafal â’r gwerth paramedrig gyda thrachywiredd o 1 rhif gwanediad ar 25°C.
(6) At y dibenion hyn—
(a) y “terfyn canfod” yw—
(i) tair gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl naturiol sy’n cynnwys crynodiad isel o’r paramedr; neu
(ii) pum gwaith y gwyriad safonol perthynol o fewn swp, o sampl wag;
(b) “trachywiredd” (sef yr hapgyfeiliornad) yw dwywaith y gwyriad safonol (o fewn swp a rhwng sypiau) gwasgariad y canlyniadau o amgylch y cymedr. Trachywiredd derbyniol yw dwywaith y gwyriad safonol cymharol. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;
(c) “gwiredd” (y cyfeiliornad systematig) yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth cymedrig y nifer fawr o fesuriadau mynych a’r gwir werth. Mae manylebau pellach wedi eu nodi yn ISO 17025;
(d) mae “ansicrwydd mesuriadau” yn baramedr annegyddol sy’n nodweddu gwasgariad y gwerthoedd nifer sy’n cael eu mesur, ar sail yr wybodaeth a ddefnyddir.
4 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi dull sy’n wahanol i’r rheini a nodir ym mharagraff 3(2) neu 3(3) os ydynt yn fodlon ei fod o leiaf yr un mor ddibynadwy.
(2) Caiff awdurdodiad fod am gyfnod cyfyngedig, a chaniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg.
5 

(1) Caiff awdurdod lleol ymrwymo i drefniant i unrhyw berson gymryd samplau a’u dadansoddi ar ran yr awdurdod lleol.
(2) Rhaid i awdurdod lleol beidio ag ymrwymo i drefniant o dan is-baragraff (1) oni fydd—
(a) yn fodlon y cyflawnir y dasg yn brydlon gan berson sy’n gymwys i’w chyflawni, a
(b) wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff yr awdurdod lleol ei hysbysu ar unwaith am unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn, ac am unrhyw ganlyniad arall o fewn 28 diwrnod.
RHAN 2

Tabl 1
Paramedr Dull
Escherichia coli (E. coli) EN ISO 9308-1 neu EN ISO 9308-2
Enterococi EN ISO 7899-2
Pseudomonas aeruginosa EN-ISO 16266
Cyfrifiad cytrefi 22ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy EN ISO 6222
Cyfrifiad cytrefi 36ºC - cyfrif micro-organebau meithrinadwy EN ISO 6222
Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) EN ISO 14189

Tabl 2
Paramedr Gwiredd fel % o’r crynodiadneu werth neu fanyleb ragnodedig(ac eithrio pH) Trachywiredd fel % o’r crynodiadneu werth neu fanyleb ragnodedig(ac eithrio pH) Terfyn canfod fel %o’r crynodiad neuwerth neufanyleb ragnodedig(ac eithrio pH)
Alwminiwm 10 10 10
Amoniwm 10 10 10
Antimoni 25 25 25
Arsenig 10 10 10
Bensen 25 25 25
Benso(a)pyren 25 25 25
Boron 10 10 10
Bromad 25 25 25
Cadmiwm 10 10 10
Clorid 10 10 10
Cromiwm 10 10 10
Lliw 10 10 10
Dargludedd 10 10 10
Copr 10 10 10
Cyanid 10 10 10
1.2-dicloroethan 25 25 10
Fflworid 10 10 10
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH) 0.2 0.2 
Haearn 10 10 10
Plwm 10 10 10
Manganîs 10 10 10
Mercwri 20 10 20
Nicel 10 10 10
Nitrad 10 10 10
Nitraid 10 10 10
Ocsideiddrwydd   
Plaleiddiaid a chynhyrchion perthynol 25 25 25
Hydrocarbonau polysyclig aromatig 25 25 25
Seleniwm 10 10 10
Sodiwm 10 10 10
Sylffad 10 10 10
Tetracloroethen 25 25 10
Tetracloromethan 20 20 20
Tricloroethen 25 25 10
Trihalomethanau:Cyfanswm   
25 25 10
Cymylogrwydd 10 10 10
Cymylogrwydd 25 25 25








Tabl 3
Paramedr Ansicrwydd mesuriadau fel% o’r gwerth paramedrig(ac eithrio pH)
Alwminiwm 25
Amoniwm 40
Antimoni 40
Arsenig 30
Bensen 40
Benso(a)pyren 50
Boron 25
Bromad 40
Cadmiwm 25
Clorid 15
Cromiwm 30
Dargludedd 20
Copr 25
Cyanid 30
1,2-dicloroethan 40
Fflworid 20
pH crynodiad ïonau hydrogen (wedi ei fynegi mewn unedau pH) 0.2
Haearn 30
Plwm 25
Manganîs 30
Mercwri 30
Nicel 25
Nitrad 15
Nitraid 20
Ocsideiddrwydd 50
Plaleiddiaid 30
Hydrocarbonau polysyclig aromatig 50
Seleniwm 40
Sodiwm 15
Sylffad 15
Tetracloroethen 30
Tricloroethen 40
Trihalomethanau: cyfanswm 40
Cyfanswm carbon organig (CCO) 30
Cymylogrwydd 30









RHAN 3
6 
Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos bod ymbelydredd yn bresennol mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.
7 
Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 gynnwys sgrinio ar gyfer—
(a) radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu
(b) gweithgarwch alffa gros neu weithgarwch beta gros (pan fo’n briodol caniateir disodli gweithgarwch beta gros gan weithgarwch beta gweddilliol ar ôl didynnu’r crynodiad gweithgarwch K-40).
8 
Os yw un o’r crynodiadau gweithgarwch yn uwch nag 20% o’r gwerth deilliedig cyfatebol neu os yw’r crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’n ofynnol dadansoddi’r radioniwclidau ychwanegol.
9 
Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae’n ofynnol eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, ystyried yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol o ymbelydredd.
10 
Yn ddarostyngedig i baragraff 11 y lefelau sgrinio a argymhellir yw—
(a) 0,1Bq/l ar gyfer gweithgarwch alffa gros; a
(b) 1,0Bq/l ar gyfer gweithgarwch beta gros.
11 
Os yw’r gweithgarwch alffa gros yn uwch na 0,1Bq/l neu os yw’r gweithgarwch beta gros yn uwch na 1,0Bq/l, mae’n ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.
12 
Caiff Gweinidogion Cymru bennu lefelau sgrinio gwahanol ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros pan fo’r awdurdod lleol yn gallu dangos bod y lefelau gwahanol yn cydymffurfio â dos dangosol o 0,1 mSv.
13 
Rhaid cyfrifo’r dos dangosol o—
(a) y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 96/29/Euratom ; neu
(b) gwybodaeth ddiweddarach a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru, ar sail y cymeriant dŵr blynyddol (730 l ar gyfer oedolion).
14 
Pan fo’r fformiwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dangosol yn is na’r gwerth paramedrig o 0,1mSv ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw ymchwiliadau pellach—

Tarddiad Niwclid Crynodiad deilliedig
Naturiol U-2383 3,0 Bq/l
 U-2343 2,8 Bq/l
 Ra-226 0,5 Bq/l
 Ra-228 0,2 Bq/l
 Pb-210 0,2 Bq/l
 Po-210 0,1 Bq/l
Artiffisial C-14 240 Bq/l
 Sr-90 4,9 Bq/l
 Pu-239/Pu-240 0,6 Bq/l
 Am-241 0,7 Bq/l
 Co-60 40 Bq/l
 Cs-134 7,2 Bq/l
 Cs-137 11 Bq/l
 1-131 6,2 Bq/l

15 
Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir, o leiaf, allu mesur crynodiadau gweithgarwch gyda’r terfyn canfod a bennir isod:

Paramedrau a radioniwclidau Terfyn canfod (Nodiadau 1,2) Nodiadau
Tritiwm 10 Bq/l Nodyn 3
Radon 10 Bq/l Nodyn 3
alffa gros 0,04 Bq/l Nodyn 4
beta gros 0,4 Bq/l Nodyn 4
U-238 0,02 Bq/l 
U-234 0,02 Bq/l 
Ra-226 0,04 Bq/l 
Ra-228 0,02 Bq/l Nodyn 5
Pb-210 0,02 Bq/l 
Po-210 0,01 Bq/l 
C-14 20 Bq/l 
Sr-90 0,4 Bq/l 
Pu-239/Pu-240 0,04 Bq/1 
Am-241 0,06 Bq/l 
Co-60 0,5 Bq/1 
Cs-134 0,5 Bq/l 
C2-137 0,5 Bq/l 
1-131 0,5 Bq/1 
Nodyn 1: Rhaid cyfrifo’r terfyn canfod yn unol â safon ISO 11929: Pennu terfynau nodweddion (trothwy penderfyniad, terfyn canfod a therfynau’r cyfwng hyder) ar gyfer mesur ymbelydredd ïoneiddio — Hanfodion a chymhwyso, gyda thebygolrwydd gwallau o’r math cyntaf a’r ail fath o 0,05 yr un.
Nodyn 2: Rhaid cyfrifo ansicrwydd mesuriadau, a chyflwyno adroddiadau arnynt, fel ansicrwydd safonol cyflawn, neu fel ansicrwydd estynedig gyda ffactor ehangu o 1,96 yn unol â Chanllaw yr ISO sef ‘Guide for the Expression of Uncertainty in Measurement’.
Nodyn 3: Y terfyn canfod ar gyfer tritiwm a radon yw 10% o’i werth paramedrig o 100 Bq/1.
Nodyn 4: Y terfyn canfod ar gyfer gweithgarwch alffa gros a gweithgarwch beta gros yw 40% o’r gwerthoedd sgrinio o 0,1 a 1,0 Bq/1 yn y drefn honno.
Nodyn 5: Nid yw’r terfyn canfod ond yn gymwys i’r sgrinio cychwynnol ar gyfer dos dangosol ar gyfer ffynhonnell ddŵr newydd; os yw’r gwirio cychwynnol yn dangos nad yw’n debygol bod lefel yr Ra-228 yn uwch nag 20% o’r crynodiad deilliedig, caniateir cynyddu’r terfyn canfod i 0,08 Bq/1 ar gyfer mesuriadau penodol arferol ar gyfer niwclidau Ra-228, nes y bydd yn ofynnol cynnal ail-wiriad dilynol.
ATODLEN 5
Rheoliad 16
1 

(1) Rhaid i awdurdod lleol gofnodi nifer y cyflenwadau dŵr preifat yn ei ardal, ac ar gyfer pob cyflenwad rhaid iddo gofnodi—
(a) enw’r cyflenwad, ynghyd â nod adnabod unigryw;
(b) y math o ffynhonnell;
(c) y lleoliad daearyddol gan ddefnyddio cyfeirnod grid;
(d) amcangyfrif o nifer y bobl a gyflenwir;
(e) amcangyfrif o’r cyfaint cyfartalog dyddiol o ddŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig;
(f) y math o fangreoedd a gyflenwir;
(g) manylion unrhyw broses drin, ynghyd â’r lleoliad.
(2) Rhaid iddo adolygu a diweddaru’r cofnodion o leiaf unwaith y flwyddyn.
(3) Rhaid iddo gadw’r cofnod am o leiaf 30 mlynedd.
2 

(1) Ar gyfer pob cyflenwad y cyfeirir ato ym mharagraff 1(1), rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi pob un o’r canlynol o fewn 28 diwrnod ar ôl iddynt ddigwydd—
(a) plan a disgrifiad o’r cyflenwad;
(b) rhaglen fonitro’r cyflenwad;
(c) yr asesiad risg;
(d) crynodeb o ganlyniadau’r asesiad risg;
(e) crynodeb o’r rhesymau dros wneud penderfyniad i leihau monitro paramedr penodol o dan Ran 4 o Atodlen 2, neu ei eithrio yn llwyr;
(f) dyddiad, canlyniadau a lleoliad unrhyw samplu a dadansoddi mewn perthynas â’r cyflenwad hwnnw, a’r rheswm dros gymryd y sampl;
(g) canlyniadau unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â’r Rheoliadau hyn;
(h) unrhyw awdurdodiad;
(i) unrhyw hysbysiadau a gyflwynir o dan adran 80 o’r Ddeddf, neu reoliad 20;
(j) unrhyw gamau gweithredu y cytunir sydd i’w cymryd gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn;
(k) unrhyw gais a wneir i’r awdurdod lleol i gyflawni gwaith samplu a dadansoddi, cynnal asesiad risg neu roi cyngor;
(l) crynodeb o unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r cyflenwad.
(2) Rhaid iddo gadw’r asesiad risg a’r cofnodion samplu a dadansoddi am o leiaf 30 mlynedd, a chadw pob cofnod arall o dan y paragraff hwn am o leiaf 5 mlynedd.
ATODLEN 6
Rheoliad 23
1 
Caiff yr awdurdod lleol godi ffi, sy’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am y gweithgarwch a nodir yn y tabl a ganlyn, a swm y ffi fydd cost resymol darparu’r gwasanaeth, yn ddarostyngedig i’r uchafsymiau a ganlyn.

Gwasanaeth  Uchafswm y ffi (£)
Asesiad risg (pob asesiad):  
 cyflenwad rheoliad 9 700
 cyflenwadau rheoliadau 10 ac 11 300
Samplu (am bob ymweliad) :  100
Ymchwiliad (am bob ymchwiliad):  250
Rhoi awdurdodiad (am bob awdurdodiad):  100
Dadansoddi sampl—  
 a gymerir o dan reoliad 10 neu 11: 25
 a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp A: 110
 a gymerir yn ystod monitro ar gyfer paramedrau Grŵp B: 600

2 

(1) Mae unrhyw berson sy’n gofyn am unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn atebol am y gost.
(2) Ac eithrio pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae ffioedd yn daladwy, fel a bennir yn yr anfoneb, gan y person perthnasol.
(3) Pan fo mwy nag un person yn atebol, wrth benderfynu pwy ddylai wneud taliad i’r awdurdod lleol—
(a) caiff yr awdurdod lleol rannu’r tâl rhyngddynt; a
(b) rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw gytundeb neu ddogfen arall a ddangosir iddo ynglŷn â’r telerau y cyflenwir y dŵr oddi tanynt.