
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 1 Ionawr 2018.
2 

(1) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 1 o’r Atodlen wedi eu dirymu.
(2) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol yng Nghymru.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2017
YR ATODLEN
Erthygl 2
RHAN 1
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Gwynedd (Eithriadau i Reoli) 1965
 Gorchymyn De-orllewin Cymru (Eithriadau i Reoli) 1965
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Morgannwg (Eithriadau i Reoli) 1966
 Gorchymyn Awdurdod Afon Wysg (Eithriadau i Reoli) 1973

RHAN 2
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd (Eithriadau i Reoli) 1966
 Gorchymyn Awdurdod Afon Hafren (Eithriadau i Reoli) 1967
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Mersi a Weaver (Eithriadau i Reoli) 1968.
