
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2017.
2 

(1) Mae Deddf Plant 1989 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer adran 25C(2) (achosion a atgyfeirir, rheoliadau mewn cysylltiad â Chymru).
3 

(1) Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 2(6)(c) yn lle “section 6 of the Local Authority Social Services Act 1970” rhodder “section 144 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014”.
4 

(1) Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adrannau 76 ac 81, yn lle “gorchymyn preswylio”, ble bynnag y mae’r geiriau yn digwydd, rhodder “gorchymyn trefniadau plentyn”.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2017