
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Tachwedd 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn erthygl 3 o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Wrth arfer y swyddogaethau ym mharagraff (1), mae’r Cyngor i roi sylw i unrhyw ragolwg o’r galw am athrawon newydd gymhwyso yr hysbysir y Cyngor amdano yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2017