
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2016;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010; ac
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.
3 
Yn adran 19 o’r Mesur (ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”)—
(a) yn is-adran (2), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”;
(b) yn is-adran (3), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”.
4 
Yn erthygl 5(3)(b) (gofal plant cymwys) o’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 yn lle “wyth mlwydd oed” rhodder “deuddeng oed”.
5 
Yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”.
Darpariaeth drosiannol
6 
Mae’r darpariaethau yn erthyglau 7 i 9 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ofalu am blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn warchodwr plant o dan Ran 2 o’r Mesur.
8 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gwasanaeth gwarchod plant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r person hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.
(2) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.
(3) Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—
(a) nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29(4) o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn;
(b) nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.
9 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n warchodwr plant ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.
(2) Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.
10 
Mae’r darpariaethau yn erthyglau 11 i 13 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.
11 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.
12 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gofal dydd i blant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r darparwr gofal dydd hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.
(2) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.
(3) Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—
(a) nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29 o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn; a
(b) nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.
13 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.
(2) Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.
14 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—
(a) yn cael ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010;
(b) yn cael ei atal dros dro yn wirfoddol o dan reoliad 46 o Reoliadau 2010.
(2) Nid yw gweithredu erthyglau 7(1) a 11(1) yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar atal cofrestriad person dros dro.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr