
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn lle rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 rhodder—“
(2) Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—
(a) pob un o’r cyfeiriadau yn erthygl 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a
(b) y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.”
3 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisiadau y ceir diwygiadau yn eu cylch gan yr awdurdod ar neu cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2016