
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986;
 ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997; ac
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio ȃ Chodi Tȃl) (Cymru) 2007.
3 
Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.
4 
Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.
5 
Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007, yn lle “31 Mawrth 2016” rhodder “31 Mawrth 2017”.
6 
Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015 wedi eu dirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2016