
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (“Gorchymyn 2010”) wedi ei ddiwygio yn unol ag erthyglau 3 i 5 o’r Gorchymyn hwn.
3 
Yn erthygl 2 o Orchymyn 2010—
(a) yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;
(b) yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 3 i 7.” rhodder “yn erthyglau 3 i 7 ac 16 o’r Gorchymyn hwn.”.
4 
Yn erthygl 8 o Orchymyn 2010—
(a) yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”;
(b) yn lle “yn yr erthyglau canlynol, 9 i 15” rhodder “yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.”.
5 
Ar ôl erthygl 15 o Orchymyn 2010 mewnosoder—“
16. 

(1) Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—
(a) mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a
(b) bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).
(3) At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—
(a) sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:
(i) mewn gweithgareddau hamdden;
(ii) mewn addysg a hyfforddiant;
(iii) ym mywyd eu cymunedau; a
(b) pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016