
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae testun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) mewnosoder “gais am” o flaen y geiriau “ganiatâd adeilad rhestredig”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016