
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 71 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;”.
4 
Yn rheoliad 5 (tystysgrif gofrestru), hepgorer is-baragraff (ch).
5 
Yn rheoliad 6 (y person cofrestredig: ei addasrwydd), ym mharagraff (1), yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
6 
Yn rheoliad 20 (diogelu a hyrwyddo lles)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “yn addas i gael cyswllt o’r fath” rhodder “yn addas i gael cyswllt â phlant”; a
(b) ym mharagraff (4), ar ddechrau is-baragraff (a) mewnosoder “pan fo’n briodol,”.
7 
Yn rheoliad 28 (addasrwydd gweithwyr), ym mharagraff (6)(c), yn lle “y person” yn yr ail le y mae’n ymddangos rhodder “ef”.
8 
Yn rheoliad 37 (addasrwydd y fangre)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “Rhaid i’r person cofrestredig” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r person cofrestredig”;
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson cofrestredig sy’n darparu gofal dydd drwy ddarpariaeth chwarae mynediad agored.”.
9 
Yn Atodlen 1, Rhan 1 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: gwarchod plant)—
(a) ym mharagraffau 2, 4, a 5 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(b) yn lle paragraff 6 rhodder—“
6. 
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.”;
(c) ym mharagraffau 8, 9, a 10 (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; a
(d) yn lle paragraff 13(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—“
13. 

(1) Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a) yn byw yn y fangre berthnasol,
(b) yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c) yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.”.
10 
Yn Atodlen 1, Rhan 2 (y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru: darparwyr gofal dydd)—
(a) ym mharagraffau 15, 17 a 18 (gofynion mewn perthynas â’r ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(b) yn lle paragraff 19 rhodder—“
19. 
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach.”;
(c) ym mharagraffau 21(a), 21(b), 22 a 23 (gofynion mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(d) yn lle paragraff 24 rhodder—“
24. 
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r unigolyn cyfrifol.”;
(e) ym mharagraffau 27, 28 a 29 (gofynion mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(f) yn lle paragraff 30 rhodder—“
30. 
Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru dystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â’r person â chyfrifoldeb.”;
(g) ym mharagraffau 32, 33 a 34 yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
(h) yn lle paragraff 37(1) (gofynion mewn perthynas â phersonau eraill: pob person arall), rhodder—“
37. 

(1) >Bod pob person (ac eithrio’r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a) yn byw yn y fangre berthnasol,
(b) yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c) yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu’n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol,
yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i gael cyswllt â phlant.”.
11 
Yn Atodlen 2, Rhan 1 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant)—
(a) ym mharagraffau 2(3) a 5(b) (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: gwarchodwr plant), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(b) ym mharagraff 11(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
(c) ym mharagraffau 17 a 20(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
12 
Yn Atodlen 2, Rhan 2 (gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer cofrestru: darparydd gofal dydd)—
(a) ym mharagraffau 22(3) a 22(5)(ch)(ii) (gwybodaeth am y ceisydd: unigolyn), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(b) ym mharagraffau 24(3)(a), 24(3)(b) a 24(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am yr unigolyn cyfrifol pan fo’r ceisydd yn sefydliad), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(c) ym mharagraffau 25(3) a 25(4)(ch)(ii) (gwybodaeth am y person â chyfrifoldeb), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”;
(d) ym mharagraff 34(e)(iii) (gwybodaeth am bersonau eraill: staff), yn lle “o dan wyth mlwydd oed” rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”; ac
(e) ym mharagraffau 40 a 46(1) (y dogfennau sydd i’w cyflenwi), yn lle “o dan wyth mlwydd oed”, ym mhob lle y mae’r geiriau’n digwydd, rhodder “o dan ddeuddeng mlwydd oed”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016