
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
2 
1 Chwefror 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym—
 Adran 18 (dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd);
 Adran 19 (swyddogaethau’r Comisiynydd);
 Adran 20 (adolygiadau gan y Comisiynydd);
 Adran 21 (argymhellion gan y Comisiynydd);
 Adran 22(1) (dyletswydd i ddilyn argymhellion);
 Adran 22(4) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: cyhoeddi’r ymateb);
 Adran 23 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol);
 Adran 24 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd);
 Adran 25 (cydweithio).
3 
1 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym —
 Adran 2 (datblygu cynaliadwy);
 Adran 3 (dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus);
 Adran 4 (y nodau llesiant);
 Adran 5 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy);
 Adran 7 (datganiadau ynghylch amcanion llesiant);
 Adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru);
 Adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill);
 Adran 11 (adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol);
 Adran 12 (adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru);
 Adran 13 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);
 Adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol);
 Adran 16 (hyrwyddo datblygu cynaliadwy);
 Adran 29 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus);
 Adran 30 (gwahoddiadau i gyfranogi);
 Adran 31 (gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad);
 Adran 32 (partneriaid eraill);
 Adran 33 (newidiadau mewn cyfranogiad);
 Adran 34 (cyfarfodydd a chylch gorchwyl);
 Adran 35 (pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol);
 Adran 36 (dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus);
 Adran 37 (asesiadau llesiant lleol);
 Adran 38 (paratoi asesiadau);
 Adran 39 (cynlluniau llesiant lleol);
 Adran 40(1) i (6) (cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned);
 Adran 41 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill);
 Adran 42 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd);
 Adran 43 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth);
 Adran 44 (adolygu cynlluniau llesiant lleol);
 Adran 45 (adroddiadau cynnydd blynyddol);
 Adran 46 (addasiadau i ddeddfiadau);
 Adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus);
 Adran 48 (cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus);
 Adran 49 (cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio);
 Adran 50 (dangosyddion perfformiad a safonau);
 Atodlen 1 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);
 Atodlen 3 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaeth bellach);
 Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) ac eithrio paragraff 34 o’r Atodlen honno.
4 
6 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig i baragraff 34 (cynlluniau’n dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016