
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Medi 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3—
(i) yn lle’r diffiniad o “cyfnod allweddol” rhodder—“
 ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un neu ragor o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (b) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002 ac mae cyfeiriad at yr ail gyfnod allweddol neu’r trydydd cyfnod allweddol yn gyfeiriad at y cyfnodau a nodir yn y drefn honno ym mharagraffau (b) ac (c) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;”; a
(ii) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae “cyfnod sylfaen” (“foundation phase”) i’w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf 2002;”;
(b) yn rheoliad 5(5)(a) yn lle “yng nghyfnod allweddol un, dau neu dri” rhodder “yn y cyfnod sylfaen, yr ail gyfnod allweddol neu’r trydydd cyfnod allweddol”; ac
(c) yn lle is-baragraff (a) ym mharagraff 9 o Atodlen 2 rhodder—“
(a) holl anghenion addysgol arbennig y disgybl a nodwyd;”.
3 
Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011 yn lle “Atodlen 2” rhodder “yr Atodlen i Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011”.
4 
Yn y diffiniad o “maes dysgu” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011, yn lle ““Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”” rhodder ““Cwricwlwm Cymru: Fframwaith y Cyfnod Sylfaen””.
5 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 yn y diffiniad o “asesiadau statudol” cyn is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ai) yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015;”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2016