
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 2016 a daw i rym ar 1 Medi 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn erthygl 3—
(i) yn lle’r diffiniad o “sgiliau cryno a llawn” rhodder—“
 ystyr “sgiliau’r proffil cryno” (“compact profile skills”) yw’r sgiliau hynny a nodir yn y tablau ar dudalennau’r llawlyfr proffil sydd â’r pennawd “(proffil cryno)” mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu.”;
(ii) hepgorer y diffiniad o “sgiliau llawn yn unig”;
(iii) yn y diffiniad o “lefel cyrhaeddiad” ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(k) uwchlaw deilliant 6;”;
(iv) yn y diffiniad o “llawlyfr proffil” yn lle “Awst 2015” rhodder “Mehefin 2016”;
(v) hepgorer y diffiniad o “dosbarth derbyn”; a
(vi) mewnosoder yn y lle priodol—“
 ystyr “blwyddyn asesiad sylfaenol” (“baseline assessment year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r disgybl yn cyrraedd 5 oed ynddi;”;
(b) yn erthygl 5—
(i) ym mharagraff (1) yn lle “mewn dosbarth derbyn” rhodder “yn y flwyddyn asesiad sylfaenol”;
(ii) ym mharagraff (2) yn lle “â’r sgiliau cryno a llawn” rhodder “â sgiliau’r proffil cryno”;
(iii) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddisgybl os oes asesiad o’r fath eisoes wedi ei gynnal mewn perthynas â’r disgybl mewn ysgol arall.”;
(c) yn lle paragraff (a) yn erthygl 7 rhodder—“
(a) o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd y disgybl yn mynd i’r flwyddyn asesiad sylfaenol; neu”; ac
(d) yn erthygl 8 ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddisgybl os oes asesiad o’r fath eisoes wedi ei gynnal mewn perthynas â’r disgybl mewn ysgol arall.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Awst 2016