
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(3) ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; ac
(4) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2 
Y diwrnodau sydd wedi eu pennu er mwyn i adran 1 o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw—
(a) 3 Awst 2016 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25D o Ddeddf 2006 (lefelau staff nyrsio: canllawiau);
(b) 6 Ebrill 2017 i’r graddau y mae’n mewnosod adran 25A o Ddeddf 2006 (dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys); ac
(c) 6 Ebrill 2018 i’r graddau y mae’n mewnosod adrannau 25B, 25C a 25E o Ddeddf 2006 (dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio, lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo a lefelau staff nyrsio: adroddiadau).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
2 Awst 2016