
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf 2016.
2 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ddiwedd y diffiniad o “parod i’w fwyta”, hepgorer “ac”;
(ii) ar ôl y diffiniad o “parod i’w fwyta” mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad 828/2014” (“Regulation 828/2014”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo; ac”;
(b) ym mharagraff (3), ar ôl “(gan gynnwys cyfeiriad at Erthygl yn FIC neu Atodiad iddo ac y mae paragraff (2) yn gymwys iddo)” mewnosoder “neu at Reoliad 828/2014 neu ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014,”.
(3) Yn rheoliad 10 (trosedd)—
(a) ym mharagraff (1)(a) yn lle “, neu” rhodder “;”;
(b) ym mharagraff (1)(b) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(c) ar ôl paragraff (1)(b) mewnosoder—“
(c) ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).”;
(d) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—
(a) Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;
(b) Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.”
(4) Yn rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf)—
(a) ym mharagraff (1)(a)(i) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”;
(b) ym mharagraff (2)(a) ar ôl “darpariaeth yn FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”.
(5) Yn Atodlen 1 (darpariaethau y Rheoliadau hyn sy’n cynnwys cyfeiriadau newidiadwy at FIC yn rhinwedd rheoliad 2(3))—
(a) yn y pennawd ar ôl “FIC” mewnosoder “neu Reoliad 828/2014”; a
(b) yn y llinell gyntaf, ar ôl “ac eithrio’r diffiniad o “FIC””, mewnosoder “a Rheoliad 828/2014”.
(6) Yn Atodlen 4 (cymhwyso ac addasu darpariaethau’r Ddeddf)—
(a) yn Rhan 1, paragraff 1—
(i) ar ddiwedd is-adran (1A)(c) hepgorer “or”;
(ii) ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iii) hepgorer “or”;
(iii) ar ddiwedd is-adran (1A)(d)(iv) yn lle “.” rhodder—“; or
(e) a provision of Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food specified in the table in Part 4 of Schedule 5 to the Food Information Regulations (Wales) 2014 (as read with regulation 2(3) of, and Schedule 1 to, those Regulations).”;
(b) yn Rhan 2, paragraff 2, ym mharagraff (a)(iii) ar ôl “any other provision of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council” mewnosoder “or Commission Implementing Regulation (EU) No 828/2014 on the requirements for the provision of information to consumers on the absence or reduced presence of gluten in food”.
(7) Yn Atodlen 5 (hysbysiadau gwella – darpariaethau FIC penodedig)—
(a) yn y pennawd, hepgorer “FIC”;
(b) ar ôl Rhan 3 mewnosoder—“
RHAN 4

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 Y ddarpariaeth sydd i’w darllen gyda’r ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014
Erthygl 3(1) Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo
Erthygl 4 Erthygl 2 o Reoliad 828/2014”.
3 
Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010 wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
22 Mehefin 2016