
RHAN 1
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 1 Mawrth 2016.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
3 

(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1990 yn gymwys i geisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o’r Ddeddf honno gydag addasiadau fel bod cyfeiriadau at awdurdodau cynllunio lleol yn cael eu trin fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru—
(a) adran 62(1);
(b) adran 62(3);
(c) adran 65(5);
(d) adran 70(1);
(e) adran 70(2);
(f) adran 70A(1);
(g) adran 70A(2);
(h) adran 71(1);
(i) adran 71(2);
(j) adran 72(1);
(k) adran 73(2);
(l) adran 73A(1); ac
(m) adran 327A(2).
(2) Pan fo unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf 1990 yn cyfeirio at ddarpariaeth a addesir gan y Gorchymyn hwn, rhaid darllen y cyfeiriad hwnnw, mewn perthynas â chais o dan adran 62D o’r Ddeddf honno, fel pe bai’n gyfeiriad at y ddarpariaeth fel y’i haddaswyd.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016