
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio’n unol â rheoliadau 3 i 14.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”)—
(a) yn lle “a” rhodder “,”;
(b) ar ôl “Deddf Diwygio Lles 2007” mewnosoder “a Deddf Pensiynau 2014”.
4 
Yn rheoliad 8 (aelwydydd), ar ôl paragraff 2(a) mewnosoder—“(aa) wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd gan awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu”.
5 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(b) ym mharagraff 15 (enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr), yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (b)(i) ar ôl “Ddeddf Plant (Yr Alban) Act 1995” mewnosoder “, neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal)”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (d)(iv) hepgorer “neu”;
(iii) ar ôl paragraff (d)(v) mewnosoder—“
(vi) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(vii) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014;”;
(c) ym mharagraff 16 (incwm tybiannol: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “adran 55A” rhodder “adrannau 55A a 55AA”;
(ii) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (2)(c) mewnosoder—“
(d) pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(iv) ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) hepgorer “ac”;
(v) yn is-baragraff (3)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;
(vi) ar ôl is-baragraff (3)(c) mewnosoder—“
(d) yn achos pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 17(7) ac (8) o’r Ddeddf honno.”;
(vii) yn is-baragraff (9) ar ôl “(10)” mewnosoder “, (11A), (11B)”;
(viii) ar ôl is-baragraff (11) mewnosoder—“
(11A) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 8(7) o’r Ddeddf honno.
(11B) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014, sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan adran 8(2) o’r Ddeddf honno, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 8(7).
(11C) Yn is-baragraff (11A) ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 8 o Ddeddf Pensiynau 2014.
(11D) Yn is-baragraff (11B) ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(d) ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—
(i) yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—“
(c) sydd—
(i) wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(ii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(iii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(iv) yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;”;
(ii) yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;
(e) ym mharagraff 20 (amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 19(11)(b)(i): anabledd : pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(ii) yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—“
(vii) yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu”;
(iii) yn is-baragraff (2) ar ôl “fel person dall” yn y ddau fan lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;
(f) ym mharagraff 22 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)—
(i) yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;
(ii) yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(g) ym mharagraff 24(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “eithriad enillion isel” rhodder “trothwy elw isel”.
6 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (3), yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall”, rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(ii) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—
(a) wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(b) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(c) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(d) yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.”;
(iii) yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall” mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;
(iv) yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall”, rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw.”;
(c) ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.
7 
Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), yn lle paragraff 5(1)(b) rhodder—“
(b) wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg, neu’r ddau wedi eu cofrestru fel personau â nam difrifol ar eu golwg, mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio, neu wedi eu hardystio, yn ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu”.
8 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ar ôl paragraff 27 mewnosoder—“
27A. 
Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014 neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu’n methu â gwneud dewis, a bod cyfandaliad wedi ei wneud, swm sy’n hafal i
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu
(b) swm y cyfandaliad hwnnw,ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn.”;
(b) ym mharagraff 28—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(g) adran 33 o Ddeddf Gofal 2014.”
9 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall”, rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(b) ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—
(i) yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—“
(c) sydd—
(i) wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(ii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(iii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(iv) yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;”;
(ii) yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall” mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”;
(c) ym mharagraff 23 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)—
(i) yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;
(ii) yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(d) ym mharagraff 25(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”.
10 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 10 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd)—
(i) yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(ii) yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—“
(vii) yn ddall ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu”;
(iii) yn is-baragraff (2) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall” mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”.
(b) ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(ii) yn is-baragraff (4)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall” rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;
(c) ym mharagraff 13(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
11 
Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 1(a)(ii)—
(a) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(b) ar ôl “amodau cyfrannu”, mewnosoder “neu i feddu ar y lleiafswm o flynyddoedd cymhwysol”.
12 
Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 31(a)—
(i) ym mharagraff (i) ar ôl “adran 23(2)(a)” mewnosoder “neu 22C”;
(ii) ar ddiwedd baragraff (ii) hepgorer “neu”;
(iii) ym mharagraff (iii) yn lle “; neu” rhodder “,”;
(iv) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu”;
(b) ym mharagraff 32—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(g) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(h) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014.”;
(c) yn lle paragraff 33 rhodder—“
33. 
Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
(a) adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
(c) adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(d) (d) adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.”;
(d) yn lle paragraff 34(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd, pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—
(a) adran 23C o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(c) adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”;
(e) yn lle paragraff 59 rhodder—“
59. 
Unrhyw daliad a wnaed
(a) fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
(b) o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);
(c) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
(d) o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
(e) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).”
13 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn lle paragraff 23 rhodder—“
23. 
Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
(a) adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
(c) adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(d) adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.”;
(b) yn lle paragraff 24(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—
(a) adran 23C o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(c) adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”;
(c) yn lle paragraff 47 rhodder—“
47. 

(1) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.
(2) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.”;
(d) yn lle paragraff 60 rhodder—“
60. 
Unrhyw daliad a wneir
(a) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
(b) fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
(c) o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);
(d) o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
(e) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).”
14 
Yn Atodlen 11 (myfyrwyr), ym mharagraff 4 (cyfrifo incwm grant)—
(a) yn is-baragraff (2)(i) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (2)(i) mewnosoder—“
(j) o fwrsari addysg uwch i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 a wnaed o dan adran 110 neu 112 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 116 o’r Ddeddf honno.
(2A) Yn is-baragraff (2)(j) mae i “person ifanc categori 3” a “person ifanc categori 4” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”
15 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio’n unol â rheoliadau 16 i 31.
16 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Deddfau budd-dal” (“the benefit Acts”)—
(a) yn lle “a” rhodder “,”;
(b) ar ôl “Deddf Diwygio Lles 2007” mewnosoder “a Deddf Pensiynau 2014”.
17 
Ym mharagraff 8 (aelwydydd), ar ôl is-baragraff (2)(a) mewnosoder—“(aa) wedi ei leoli gyda’r ceisydd neu bartner y ceisydd o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu”.
18 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion : pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£11.75” rhodder “£12.25”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.90” rhodder “£4.05”;
(c) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£189.00” rhodder “£195.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£189.00”, “£328.00” a “£7.80” rhodder “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£328.00”, “£408.00” a “£9.85” rhodder “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” yn y drefn honno;
(f) yn is-baragraff (6)(a) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”.
19 
Ym mharagraff 41 (enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995” mewnosoder “, neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”;
(b) yn is-baragraff (2)(d)—
(i) ar ddiwedd paragraff (iv) hepgorer “neu”;
(ii) ar ôl paragraff (v) mewnosoder—“
(vi) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(vii) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014;”.
20 
Ym mharagraff 42 (incwm tybiannol: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “adran 55A” rhodder “adrannau 55A a 55AA”;
(b) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
(c) ar ôl is-baragraff (2)(c) mewnosoder—“
(d) pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(d) ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) hepgorer “ac”;
(e) yn is-baragraff (3)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;
(f) ar ôl is-baragraff (3)(c) mewnosoder—“
(d) yn achos pensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014, yn yr amgylchiadau a bennir yn adran 17(7) ac (8) o’r Ddeddf honno.”;
(g) yn is-baragraff (9) ar ôl “(10)” mewnosoder “, (11A), (11B)”;
(h) ar ôl is-baragraff (11) mewnosoder—“
(11A) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 8(7) o’r Ddeddf honno.
(11B) Nid yw is-baragraff (9) yn gymwys mewn perthynas â swm cynnydd mewn pensiwn pan fo person, ar ôl dewis o blaid y cynnydd hwnnw mewn pensiwn yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014, sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan adran 8(2) o’r Ddeddf honno, wedyn yn newid y dewis hwnnw, o blaid cyfandaliad, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno sy’n cynnwys darpariaeth sy’n gyfatebol neu’n debyg i ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 8(7).
(11C) Yn is-baragraff (11A), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 8 o Ddeddf Pensiynau 2014.
(11D) Yn is-baragraff (11B), ystyr “cyfandaliad” (“lump sum”) yw cyfandaliad o dan adran 10 o Ddeddf Pensiynau 2014.”
21 
Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—
(a) yn lle is-baragraff (14)(c) rhodder—“
(c) sydd—
(i) wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(ii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(iii) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(iv) yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;”;
(b) yn is-baragraff (14)(d) ar ôl “fel person dall” mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg”.
22 
Ym mharagraff 57 (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc.)
(a) yn is-baragraff (c) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”;
(b) yn is-baragraff (d) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”.
23 
Ym mharagraff 59(3)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig) yn lle “eithriad enillion isel”, rhodder “trothwy elw isel”.
24 
Ym mharagraff 73 (cyfrifo incwm grant)—
(a) yn is-baragraff (2)(i) yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (2)(i) mewnosoder—“
(j) o fwrsari addysg uwch i bersonau ifanc categori 3 a chategori 4 a wnaed o dan adran 110 neu 112 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 116 o’r Ddeddf honno.”
(2A) Yn is-baragraff (2)(j) mae i “person ifanc categori 3” a “person ifanc categori 4” yr ystyr a roddir yn adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”
25 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£151.20” a “£166.05” rhodder “£155.60” a “£168.70” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£230.85” a “£248.30” rhodder “£237.55” a “£252.30” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£230.85” a “£79.65” rhodder “£237.55” a “£81.95” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£248.30” a “£82.25” rhodder “£252.30” a “£83.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(ii) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg os yw—
(a) wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles);
(b) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
(c) wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014; neu
(d) yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994.”;
(iii) yn is-baragraff (5) ar ôl “fel person dall”, mewnosoder “neu fel person â nam difrifol ar ei olwg” ac ar ôl “fel pe bai’n ddall”, mewnosoder “neu’n berson â nam difrifol ar ei olwg”;
(iv) yn is-baragraff (6)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall” rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;
(c) ym mharagraff 8(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall” rhodder “fel y cyfryw”.
26 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 10 (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd)—
(i) yn is-baragraff (1)(a)(ii), ar ôl “o dan y Ddeddf honno”, mewnosoder “neu bensiwn y wladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(ii) yn lle is-baragraff (1)(a)(vii) rhodder—“
(vii) yn ddall ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person dall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu â nam difrifol ar ei olwg ac o ganlyniad wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu”
(iii) yn is-baragraff (2), yn lle “gofrestru fel person dall” rhodder “gofrestru fel person dall neu berson â nam difrifol ar ei olwg”, ac yn lle “fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod” rhodder “fel y cyfryw ac fel person sy’n bodloni’r amod”;
(b) ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (3) yn lle “hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “hwnnw’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”;
(ii) yn is-baragraff (4)(b) yn lle “sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall”, rhodder “sy’n ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu a drinnir fel y cyfryw”;
(c) ym mharagraff 13(b) (premiwm plentyn anabl) yn lle “yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall” rhodder “yn ddall neu â nam difrifol ar ei olwg neu’n cael ei drin fel y cyfryw”.
27 
Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr) yn lle paragraff 5(1)(b) rhodder—“
(b) wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (gwasanaethau lles), neu wedi ei gofrestru fel person â nam difrifol ar ei olwg, neu’r ddau wedi eu cofrestru fel personau â nam difrifol ar eu golwg, mewn cofrestr a lunnir ac a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014, neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio, neu wedi eu hardystio, yn ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru, neu’r ddau wedi eu cofrestru, yn ddall mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994; neu”.
28 
Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 1(a)(ii)—
(a) ar ôl “o dan DCBNC”, mewnosoder “neu bensiwn gwladwriaeth o dan Ran 1 o Ddeddf Pensiynau 2014”;
(b) ar ôl “amodau cyfrannu”, mewnosoder “neu i feddu ar y lleiafswm o flynyddoedd cymhwysol”.
29 
Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 31(a)—
(i) ym mharagraff (i) ar ôl “adran 23(2)(a)” mewnosoder “neu 22C”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “neu”;
(iii) ar ddiwedd paragraff (iii) hepgorer “neu”;
(iv) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
(iv) adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ; neu”;
(b) ym mharagraff 32—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (e) hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (f) yn lle “.” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(g) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 35 neu 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(h) y person dan sylw pan fo’r taliad ar gyfer darparu llety i ddiwallu ei anghenion am ofal a chymorth a drefnir yn unol ag adran 18 neu 19 o Ddeddf Gofal 2014.”;
(c) yn lle paragraff 33 rhodder—“
33. 
Unrhyw daliad a wnaed gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
(a) adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
(c) adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(d) adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.”;
(d) yn lle paragraff 34(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw daliad (neu ran o daliad) a wnaed gan awdurdod lleol i berson (“A”) ac a drosglwyddir ymlaen gan A i’r ceisydd, pan fo’r taliad wedi ei wneud yn unol â’r canlynol—
(a) adran 23C o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 29 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(c) adran 110 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.”;
(e) yn lle paragraff 59 rhodder—“
59. 
Unrhyw daliad a wnaed
(a) fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
(b) o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd);
(c) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
(d) o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
(e) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).”
30 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ar ôl paragraff 27 mewnosoder—“
27A. 
Pan fo person yn dewis yr hawl i gael cyfandaliad o dan adran 8(2) o Ddeddf Pensiynau 2014 neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 10 o’r Ddeddf honno, neu’n methu â gwneud dewis, a bod cyfandaliad wedi ei wneud, swm sy’n hafal i
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, swm unrhyw daliad neu daliadau a wneir ar gyfrif y cyfandaliad hwnnw; neu
(b) swm y cyfandaliad hwnnw,ond hynny cyhyd, yn unig, nad yw’r person hwnnw’n newid y dewis hwnnw o blaid cynnydd mewn pensiwn.”;
(b) ym mharagraff 28—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”;
(ii) yn is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; neu
(g) adran 33 o Ddeddf Gofal 2014.”
31 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn lle paragraff 23 rhodder—“
23. 
Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol yn unol â’r canlynol
(a) adran 17, 23B, 23C neu 24A o Ddeddf Plant 1989;
(b) adran 12 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968;
(c) adran 22, 29 neu 30 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995; neu
(d) adran 37, 38, 109, 110 neu 114 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ond gan eithrio unrhyw daliadau uniongyrchol a wnaed o dan y Ddeddf honno.”;
(b) yn lle paragraff 47 rhodder—“
47. 

(1) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 3 o Ddeddf Personau Anabl (Cyflogaeth) 1958 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.
(2) Unrhyw daliad a wneir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 i weithwyr gartref a gynorthwyir o dan gynllun gweithwyr gartref dall.”;
(c) yn lle paragraff 60 rhodder—“
60. 
Unrhyw daliad a wneir
(a) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 57 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (taliadau uniongyrchol);
(b) fel taliad uniongyrchol fel y diffinnir “direct payment” yn adran 4(2) o Ddeddf Gofal Cymdeithasol (Cymorth Hunangyfeiriedig) (Yr Alban) 2013;
(c) o dan adrannau 12A i 12D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd);
(d) o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 50 i 53 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (taliadau uniongyrchol); neu
(e) o dan reoliadau a wnaed o dan adran 33 o Ddeddf Gofal 2014 (taliadau uniongyrchol).”
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
19 Ionawr 2016