
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
2 
Y diwrnod penodedig i adran 185 o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf, ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
3 
Y diwrnod penodedig i adran 185 o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 60 i 65 o Atodlen 3 i’r Ddeddf, ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2016