
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Hydref 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl)—
(a) ar ddiwedd paragraff (2)(e) yn lle’r atalnod llawn rhodder hanner colon;
(b) ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—“
(f) yn analluog i gerdded neu’n cael anhawster sylweddol i gerdded oherwydd anabledd dros dro ond sylweddol y mae disgwyl iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf.”
(3) Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi)—
(a) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—“
(c) i berson sy’n dod o fewn y disgrifiad a bennir yn rheoliad 4(2)(f), am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau gyda’r dyddiad rhoi;”;
(b) ar ôl paragraff (4)(c) mewnosoder—“
(ch) i berson nad yw’n dod o fewn is-baragraffau (a), (b) neu (c) am gyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad rhoi.”
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2016