
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu” (“PCC election”) yw etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011;
 mae “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3 
Mae’r gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011; a
(b) Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012.
4 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 1.
5 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â gwasanaethau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y gwasanaethau penodedig yw—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau etholaeth mewn cysylltiad â’r etholiad.
6 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â threuliau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob etholaeth Cynulliad yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 1.
(2) Y treuliau penodedig yw—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau etholaeth ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau etholaeth;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall neu brynu deunyddiau pleidleisio drwy’r post;
(f) argraffu neu gynhyrchu fel arall gardiau pleidleisio, a threfnu i’w dosbarthu;
(g) argraffu neu gynhyrchu fel arall yr holl hysbysiadau a dogfennau etholiad, a’u cyhoeddi;
(h) rhentu, gwresogi, goleuo, glanhau, addasu neu adfer unrhyw adeilad neu ystafell;
(i) darparu a chludo cyfarpar;
(j) darparu cyfarpar a meddalwedd technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chostau cysylltiedig;
(k) darparu diogelwch, gan gynnwys storio blychau pleidleisio, papurau pleidleisio a dogfennau gwirio yn ddiogel;
(l) cynnal y gwirio a’r cyfrif;
(m) darparu a chael hyfforddiant;
(n) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
7 
Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yw’r swm a restrir yng ngholofn 4 o’r tabl yn Atodlen 2.
8 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu mewn cysylltiad â gwasanaethau penodedig beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y gwasanaethau penodedig yw—
(a) gwneud trefniadau ar gyfer yr etholiad;
(b) cynnal yr etholiad;
(c) cyflawni holl ddyletswyddau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn cysylltiad â’r etholiad.
9 

(1) Rhaid i gyfanswm y taliadau y caiff swyddog canlyniadau rhanbarthol eu hadennill mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir ac a gynhelir ar yr un diwrnod ag etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, mewn cysylltiad â threuliau penodedig, beidio â bod yn fwy na’r swm a restrir ar gyfer pob rhanbarth etholiadol Cynulliad yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2.
(2) Y treuliau penodedig yw—
(a) penodi a thalu personau i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(b) treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos y swyddog canlyniadau rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir i gynorthwyo’r swyddog canlyniadau rhanbarthol;
(c) costau’r broses enwebu;
(d) argraffu neu gynhyrchu fel arall hysbysiadau etholiad, a’u cyhoeddi;
(e) argraffu neu gynhyrchu fel arall y papurau pleidleisio;
(f) darparu deunyddiau ysgrifennu a thalu costau postio, ffonio, argraffu, cyfieithu a bancio a chostau eitemau amrywiol eraill.
10 
Mewn etholiad etholaeth Cynulliad nas ymleddir—
(a) nid yw erthyglau 4 i 6 yn gymwys; a
(b) y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £1,750.00 (un fil a saith gant a hanner o bunnoedd) am bob etholaeth.
11 
Mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad nas ymleddir—
(a) nid yw erthyglau 7 i 9 yn gymwys; a
(b) y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau a threuliau yw £350.00 (tri chant a hanner o bunnoedd) am bob rhanbarth.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2016
ATODLEN 1
Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)


1.Etholaeth Cynulliad 2.Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig 3.Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig 4.Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy
Aberafan £4,730.00 £78,300.00 £83,030.00
Aberconwy £4,730.00 £74,791.00 £79,521.00
Alun a Glannau Dyfrdwy £4,730.00 £78,247.00 £82,977.00
Arfon £4,730.00 £53,033.00 £57,763.00
Blaenau Gwent £4,730.00 £83,885.00 £88,615.00
Bro Morgannwg £4,730.00 £154,592.00 £159,322.00
Brycheiniog a Sir Faesyfed £4,730.00 £82,353.00 £87,083.00
Caerffili £4,730.00 £82,797.00 £87,527.00
Canol Caerdydd £4,730.00 £97,476.00 £102,206.00
Castell-nedd £4,730.00 £87,369.00 £92,099.00
Ceredigion £4,730.00 £92,231.00 £96,961.00
Cwm Cynon £4,730.00 £74,772.00 £79,502.00
De Caerdydd a Phenarth £4,730.00 £124,167.00 £128,897.00
De Clwyd £4,730.00 £77,729.00 £82,459.00
Delyn £4,730.00 £76,748.00 £81,478.00
Dwyfor Meirionnydd £4,730.00 £66,589.00 £71,319.00
Dwyrain Abertawe £4,730.00 £67,269.00 £71,999.00
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr £4,730.00 £97,561.00 £102,291.00
Dwyrain Casnewydd £4,730.00 £87,003.00 £91,733.00
Dyffryn Clwyd £4,730.00 £87,230.00 £91,960.00
Gogledd Caerdydd £4,730.00 £120,200.00 £124,930.00
Gorllewin Abertawe £4,730.00 £67,494.00 £72,224.00
Gorllewin Caerdydd £4,730.00 £112,966.00 £117,696.00
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro £4,730.00 £96,423.00 £101,153.00
Gorllewin Casnewydd £4,730.00 £89,112.00 £93,842.00
Gorllewin Clwyd £4,730.00 £97,530.00 £102,260.00
Gŵyr £4,730.00 £73,880.00 £78,610.00
Islwyn £4,730.00 £74,543.00 £79,273.00
Llanelli £4,730.00 £90,871.00 £95,601.00
Merthyr Tudful a Rhymni £4,730.00 £83,531.00 £88,261.00
Mynwy £4,730.00 £105,161.00 £109,891.00
Ogwr £4,730.00 £90,819.00 £95,549.00
Pen-y-bont ar Ogwr £4,730.00 £91,963.00 £96,693.00
Pontypridd £4,730.00 £80,025.00 £84,755.00
Preseli Sir Benfro £4,730.00 £94,370.00 £99,100.00
Rhondda £4,730.00 £78,984.00 £83,714.00
Sir Drefaldwyn £4,730.00 £65,864.00 £70,594.00
Torfaen £4,730.00 £77,098.00 £81,828.00
Wrecsam £4,730.00 £64,516.00 £69,246.00
Ynys Môn £4,730.00 £100,671.00 £105,401.00
ATODLEN 2
Erthyglau 7, 8(1) a 9(1)


1.Rhanbarth Etholiadol Cynulliad 2.Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y gwasanaethau penodedig 3.Cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am y treuliau penodedig 4.Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy
Canol De Cymru £2,400.00 £17,573.00 £19,973.00
Canolbarth a Gorllewin Cymru £2,400.00 £15,157.00 £17,557.00
Dwyrain De Cymru £2,400.00 £16,529.00 £18,929.00
Gogledd Cymru £2,400.00 £16,645.00 £19,045.00
Gorllewin De Cymru £2,400.00 £14,089.00 £16,489.00