
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Gwasanaethau Cymdeithasol (Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol) (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Y diwrnod penodedig i’r cod ymarfer ar rôl y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ddod i rym o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Ionawr 2016 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 16 Mawrth 2016) yw 6 Ebrill 2016.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2016