
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010.
2 
Yn rheoliad 10(1)(dd) o Reoliadau 2010—
(a) o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;
(b) yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y Rhannau hynny o’r Atodlen honno”.
3 
Ar ôl rheoliad 10 (cyflenwadau preifat eraill) o Reoliadau 2010 mewnosoder—“
10A. 

(1) Rhaid i awdurdod lleol fonitro pob cyflenwad preifat yn ei ardal (heblaw cyflenwad i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer unrhyw weithgarwch masnachol neu gyhoeddus) ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn unol â’r rheoliad hwn ac Atodlen 2A.
(2) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 2A, ystyr “y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol” yw Tabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1.
(3) Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni nad yw paramedr yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol yn debygol o fod yn bresennol mewn cyflenwad o ddŵr yn ei ardal mewn crynodiadau a allai fod yn uwch na’r crynodiad neu’r gwerth rhagnodedig ar gyfer y paramedr perthnasol yn y tabl hwnnw, caiff yr awdurdod lleol, am unrhyw gyfnod amser fel y gwêl yn briodol, benderfynu hepgor y paramedr o dan sylw o’r ddyletswydd i fonitro ym mharagraff (1).
(4) Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (3) gael ei wneud—
(a) ar sail arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall (gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wneir yn unol â rheoliad 6); a
(b) gan gymryd unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion i ystyriaeth.
(5) Rhaid i’r awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru y seiliau dros ei benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad (gan gynnwys canfyddiadau unrhyw arolygon, gwaith monitro neu asesiadau a wnaed yn unol â pharagraff (4)(a)).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfleu’r seiliau dros benderfyniad o dan baragraff (3) i’r Comisiwn Ewropeaidd gyda’r ddogfennaeth angenrheidiol sy’n ategu’r penderfyniad a roddir o dan baragraff (5).
(7) Pan—
(a) bo penderfyniad wedi ei wneud o’r blaen o dan baragraff (3); a
(b) nad yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni mwyach fod y sail dros y penderfyniad yn bodoli,
ni fydd yr hepgoriad rhag monitro o dan baragraff (3) yn gymwys mwyach, a rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru felly mewn ysgrifen.
(8) Yn achos radioniwclidau sy’n digwydd yn naturiol, pan fo canlyniadau blaenorol (gan gynnwys arolygon cynrychioliadol, data monitro neu wybodaeth ddibynadwy arall) yn dangos bod crynodiad y radioniwclidau yng nghyflenwad o fewn ardal awdurdod lleol yn sefydlog, mae amlder gofynnol y samplu a’r dadansoddi i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol, a’i gadarnhau drwy hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru, gan gymryd y risg i iechyd pobl i ystyriaeth.
(9) Mae’r gofynion ychwanegol yn Rhan 3 o Atodlen 3 yn gymwys i waith monitro ar gyfer cydymffurfio â pharamedr y dos dynodol.
10B. 
Yn achos cyflenwad preifat i annedd sengl nas defnyddir ar gyfer gweithgarwch masnachol neu gyhoeddus, caiff awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer y paramedrau a gynhwysir yn Nhabl D yn Rhan 3 o Atodlen 1 yn unol ag Atodlen 2A a Rhan 3 o Atodlen 3, a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan y perchennog neu’r meddiannydd.”
4 
Yn Nhabl C (crynodiadau, gwerthoedd neu gyflyrau rhagnodedig) yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, hepgorer—
(a) y cofnod mewn perthynas â chyfanswm dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd);
(b) y cofnod mewn perthynas â thritiwm (ar gyfer ymbelydredd); ac
(c) nodyn (ii).
5 
Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
6 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau 2010—
(a) ym mharagraff 3(2)—
(i) o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”;
(ii) yn lle’r geiriau “yn yr Atodlen honno” rhodder “yn y naill Ran neu’r llall o’r Atodlen honno”; a
(b) ym mharagraff 3(3)(a), o flaen y geiriau “Atodlen 1” mewnosoder “Rhan 1 neu 2 o”.
7 
Ar ôl Atodlen 2 i Reoliadau 2010 mewnosoder yr atodlen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
8 
Ar ôl Rhan 2 o Atodlen 3 i Reoliadau 2010 mewnosoder y rhan a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2016
ATODLEN 1
Rheoliad 5
“
RHAN 3

TABL DParamedrau Crynodiad neu werth uchaf Unedau mesur
Dos dynodol (ar gyfer ymbelydredd) 0,10 mSv
Radon 100 Bq/1
Tritiwm (ar gyfer ymbelydredd) 100 Bq/l

”
ATODLEN 2
Rheoliad 7
“
ATODLEN 2A
Rheoliad 10A
1. 

(1) O ran paramedr radon yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol—
(a) sicrhau bod arolwg cynrychioliadol yn cael ei wneud yn unol ag is-baragraff (2) er mwyn penderfynu pa mor debygol yw hi y bydd cyflenwad yn methu cydymffurfio â’r crynodiad neu’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b) gwneud gwaith monitro pan fo rheswm dros gredu, ar sail canlyniadau’r arolygon cynrychioliadol neu wybodaeth ddibynadwy arall, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wnaed yn unol â rheoliad 6, y gallai’r mesuriad fod yn uwch na’r gwerth paramedrig ar gyfer y paramedr radon a nodir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Rhaid i arolwg cynrychioliadol gael ei ddylunio yn y fath fodd–
(a) ag i allu penderfynu graddfa a natur y datguddiad tebygol i radon mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl sy’n tarddu o fathau gwahanol o ffynonellau dŵr daear a ffynhonnau mewn ardaloedd daearegol gwahanol; a
(b) i’r paramedrau gwaelodol, yn enwedig daeareg a hydroleg yr ardal, ymbelydredd y graig neu’r pridd, a’r math o ffynnon, gael eu hadnabod a’u defnyddio i gyfeirio rhagor o gamau at ardaloedd lle ceir datguddiad uchel tebygol.
2. 

(1) O ran paramedr tritiwm yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol —
(a) wneud gwaith monitro pan fo ffynhonnell anthropogenig tritiwm neu radioniwclidau artiffisial eraill yn bresennol yn y dalgylch ac nad oes modd dangos ar sail rhaglenni arolygu neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wnaed yn unol â rheoliad 6, fod lefel y tritiwm yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol; a
(b) cynnal ymchwiliad ynglŷn â phresenoldeb radioniwclidau artiffisial eraill os yw crynodiad y tritiwm yn uwch na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo’n ofynnol gwneud gwaith monitro o dan is-baragraff (1)—
(a) rhaid iddo gael ei wneud yn unol â’r amlderau a nodir ar gyfer monitro drwy archwiliad yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2; neu
(b) rhaid iddo gael ei wneud (yn achos cyflenwad dŵr preifat sydd o fewn rhychwant rheoliad 10(1)) o leiaf bob pum mlynedd neu’n amlach os yw’r asesiad risg y cyfeirir ato o dan is-baragraff (1)(a) yn dangos bod angen hynny.
3. 

(1) O ran paramedr dos dynodol (“DD”) yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i awdurdod lleol wneud gwaith monitro pan fo ffynhonnell ymbelydredd artiffisial neu ymbelydredd naturiol uwch yn bresennol ac nad oes modd dangos ar sail rhaglenni arolygu neu ymchwiliadau eraill, gan gynnwys unrhyw asesiad risg a wnaed yn unol â rheoliad 6, fod lefel y DD yn is na’r gwerth paramedrig a restrir yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol.
(2) Pan fo’n ofynnol gwneud gwaith monitro o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â radioniwclidau artiffisial—
(a) rhaid iddo gael ei wneud yn unol â’r amlderau a nodir ar gyfer monitro drwy archwiliad yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2;
(b) rhaid iddo gael ei wneud (yn achos cyflenwad dŵr preifat sydd o fewn rhychwant rheoliad 10(1)) o leiaf bob pum mlynedd ac yn amlach os yw’r asesiad risg yn dangos bod angen hynny.
(3) Pan fo’n ofynnol gwneud gwaith monitro o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â ffynhonnell ymbelydredd naturiol uwch—
(a) mae’r awdurdod lleol—
(i) yn cael penderfynu ar amlder y gwaith monitro yn ei ardal gan ddibynnu ar y strategaeth sgrinio a fabwysiadwyd gan yr awdurdod; a
(ii) yn gorfod hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen ynglŷn â’i benderfyniad o dan is-baragraff (i); a
(b) gall amlder y gwaith monitro y penderfynir arno o dan is-baragraff (a)(i) amrywio o un mesuriad gwirio i’r amlderau a nodir ar gyfer monitro drwy archwiliad yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2.
(4) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan is-baragraff (3) fod mesuriad un gwiriad ar gyfer ymbelydredd naturiol yn briodol, rhaid i’r awdurdod lleol wneud gwiriad arall os ceir unrhyw newid mewn perthynas â’r cyflenwad sy’n debygol o ddylanwadu ar grynodiadau radioniwclidau yn y cyflenwad.
4. 
Pan fo cyflenwad dŵr preifat wedi ei drin i leihau lefel y radioniwclidau, rhaid i’r awdurdod lleol fonitro’r cyflenwad ar gyfer cyfanswm y dos dynodol, radon a thritiwm yn unol â darpariaethau’r Rhan hon a’r amlderau a nodir ar gyfer monitro drwy archwiliad yn Nhabl 3 yn Rhan 2 o Atodlen 2 er mwyn dilysu bod y driniaeth honno’n dal yn effeithiol.
5. 
Pan fo sampl benodol a gymerir gan awdurdod lleol yn uwch na gwerth paramedrig yn y tabl paramedrau sylweddau ymbelydrol, rhaid i Weinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad mewn ysgrifen i’r awdurdod lleol, hyd a lled yr ail-samplu a fydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gwerthoedd a fesurir yn gynrychioliadol o grynodiad gweithgarwch cyfartalog ar gyfer blwyddyn lawn.”
ATODLEN 3
Rheoliad 8
“
RHAN 3
5. 
Caiff awdurdod lleol ddefnyddio strategaethau sgrinio dibynadwy i ddangos presenoldeb ymbelydredd mewn dŵr a fwriedir i’w yfed gan bobl.
6. 
Caiff y strategaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 5 gynnwys sgrinio ar gyfer–
(a) radioniwclidau penodol neu radioniwclid unigol; neu
(b) actifedd alffa gros neu actifedd beta gros (lle bo’n briodol, yn lle actifedd beta gros gellir defnyddio actifedd beta gweddilliol ar ôl tynnu crynodiad actifedd K-40).
7. 
Os bydd un o’r crynodiadau actifedd yn fwy nag 20% o’r gwerth deilliadol cyfatebol neu os bydd y crynodiad tritiwm yn uwch na’i werth paramedrig a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 bydd yn ofynnol cynnal dadansoddiad o radioniwclidau ychwanegol.
8. 
Wrth benderfynu pa radioniwclidau y mae angen eu mesur ar gyfer pob cyflenwad, rhaid i awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol ymbelydredd.
9. 
Yn ddarostyngedig i baragraff 10 dyma’r gwerthoedd sgrinio a argymhellir–
(a) 0,1Bq/l ar gyfer actifedd alffa gros; a
(b) 1,0Bq/l ar gyfer actifedd beta gros.
10. 
Os bydd yr actifedd alffa gros yn fwy na 0,1Bq/l neu os bydd yr actifedd beta gros yn fwy na 1,0Bq/l, bydd yn ofynnol dadansoddi ar gyfer radioniwclidau penodol.
11. 
Caiff Gweinidogion Cymru osod lefelau sgrinio amgen ar gyfer actifedd alffa gros ac actifedd beta gros os gall yr awdurdod lleol ddangos bod y lefelau amgen yn cydymffurfio â dos dynodol o 0,1 mSv.
12. 
Rhaid i’r radioniwclidau sydd i’w mesur fod wedi eu seilio ar yr holl wybodaeth berthnasol am ffynonellau tebygol ymbelydredd.
12. 
Rhaid i’r dos dynodol gael ei gyfrifo ar sail–
(a) y crynodiadau radioniwclidau a fesurwyd a chyfernodau’r dos a nodwyd yn Atodiad III, Tabl A o Gyfarwyddeb 9>6/29/Euratom; neu
(b) gwybodaeth fwy diweddar a gydnabuwyd gan Weinidogion Cymru, ar sail cymeriant dŵr blynyddol (730 1 yn achos oedolion).
13. 
Pan fo’r fformwla a ganlyn wedi ei bodloni, gellir tybio bod y dos dynodol yn llai na’r gwerth paramedrig o 0,1 mSv ac nid oes angen rhagor o ymchwilio–∑i=1nCi(obs)Ci(der)≤1lle:
 Ci(obs) = y crynodiad a welwyd o radioniwclid i
 Ci(der) = crynodiad deilliadol radioniwclid i
 n = nifer y radioniwclidau a ganfuwyd.
Tarddiad Niwclid Crynodiad deilliadol
Naturiol U-238 3,0 Bq/1
 U-234 2,8 Bq/1
 Ra-226 0,5 Bq/1
 Ra-228 0,2 Bq/1
 Pb-210 0,2 Bq/1
 Po-210 0,1 Bq/1
Artiffisial C-14 240 Bq/1
 Sr-90 4,9 Bq/1
 Pu-239/Pu-240 0,6 Bq/1
 Am-241 0,7 Bq/1
 Co-60 40 Bq/1
 Cs-134 7,2 Bq/1
 Cs-137 11 Bq/1
 1-131 6,2 Bq/1


14 
Ar gyfer y paramedrau a’r radioniwclidau a ganlyn, rhaid i’r dull dadansoddi a ddefnyddir fod â’r gallu, ar y lleiaf, i fesur crynodiadau actifedd gyda’r terfyn canfod a nodir isod:
Paramedrau a radioniwclidau Terfyn canfod  Nodiadau
Tritiwm 10 Bq/1 
Radon 10 Bq/1 
alffa gros 0,04 Bq/1 
beta gros 0,4 Bq/1 
U-238 0,02 Bq/1 
U-234 0,02 Bq/1 
Ra-226 0,04 Bq/1 
Ra-228 0,02 Bq/1 
Pb-210 0,02 Bq/1 
Po-210 0,01 Bq/1 
C-14 20 Bq/1 
Sr-90 0,4 Bq/1 
Pu-239/Pu-240 0,04 Bq/1 
Am-241 0,06 Bq/1 
Co-60 0,5 Bq/1 
Cs-134 0,5 Bq/1 
Cs-137 0,5 Bq/1 
I-131 0,5 Bq/1 




”