
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 yn union ar ôl i Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 ddod i rym.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1, yn lle’r diffiniad o “llety diogel” rhodder y paragraff a ganlyn—“
 ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”) yw llety—
(a) a ddarperir at ddiben cyfyngu ar ryddid plant y mae’r meini prawf ym mharagraffau (a) a (b) o adran 119(1) yn gymwys iddynt, a
(b) sydd yng Nghymru neu Loegr oni nodir i’r gwrthwyneb;”.
(3) Ym mharagraff (1) o reoliad 2—
(a) ar ôl y geiriau “awdurdod lleol” mewnosoder “neu awdurdod lleol yn Lloegr”; a
(b) ar ôl y geiriau “llety diogel” mewnosoder “yng Nghymru”.
(4) Yn rheoliad 7, ar ôl paragraff (2) mewnosoder y paragraff a ganlyn—“
(3) Rhaid i unrhyw awdurdodiad mewn cysylltiad â phlentyn o’r fath beidio â bod yn hwy nag 28 o ddiwrnodau ar unrhyw un achlysur heb awdurdodiad pellach.”.
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 9, ar ôl y geiriau “cartref plant” mewnosoder “yng Nghymru”.
(6) Yn rheoliad 12—
(a) ar ôl y geiriau “cartref plant” mewnosoder “yng Nghymru”,
(b) ym mharagraff (c), ar ôl y geiriau “awdurdod lleol” mewnosoder “neu’r awdurdod lleol yn Lloegr”.
(7) Yn rheoliad 14, hepgorer paragraff (c).
(8) Ym mharagraff (1) o reoliad 15, yn lle “ac 16” rhodder “a 17”.
(9) Ym mharagraff (1) o reoliad 16, yn lle “reoliad 7” rhodder “reoliad 14”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2016