
1 

(1)  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “aelod addysg annibynnol” (“independent education member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes addysg;
 ystyr “aelod amaethyddiaeth annibynnol” (“independent agriculture member”) yw person sy’n meddu ar brofiad, gwybodaeth neu arbenigedd ym maes amaethyddiaeth;
 ystyr “aelodau annibynnol” (“independent members”) yw’r ddau aelod o’r Panel sy’n cynnwys yr aelod amaethyddiaeth annibynnol a’r aelod addysg annibynnol;
 ystyr “aelodau cynrychioliadol” (“representative members”) yw’r pedwar aelod o’r Panel a ddetholir gan, ac o blith, aelodau’r sefydliadau a nodir yn erthygl 5(1)(d) i (f);
 ystyr “Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus” (“Public Appointments Code of Practice”) yw’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2012 gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, drwy gyflawni ei ddyletswyddau fel y’u nodwyd yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor ar Benodiadau Cyhoeddus 2002 (fel y’i diwygir);
 ystyr “y dyddiad sefydlu” (“the establishment day”) yw 1 Ebrill 2016;
 ystyr “LANTRA” yw’r cwmni, neu unrhyw sefydliad sy’n ei olynu beth bynnag fo’i enw, sydd â’i gyfeiriad swyddfa gofrestredig yn Lantra House, Stoneleigh Park, Swydd Warwick, CV8 2LG ac sydd â’r rhif cofrestru cwmni 02823181 yng Nghymru a Lloegr;
 ystyr “y Panel” (“the Panel”) yw’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru;
 ystyr “UNITE” yw Unite yr Undeb sydd â’i swyddfa gofrestredig yn Unite House, 128 Theobald’s Road, Holborn, Llundain, WC1X 8TN ac sydd wedi ei chofnodi ar restr y Swyddog Ardystio yn unol ag adrannau 2 i 4 ac adrannau 123 i 125 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw.
3 

(1)  Ar y dyddiad sefydlu bydd y Panel yn cael ei sefydlu.
(2) Swyddogaethau’r Panel yw—
(a) hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth;
(b) llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo; ac
(c) cynghori Gweinidogion Cymru ar unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol yng Nghymru sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
4 
Rhaid i berson i gadeirio’r Panel (“cadeirydd y Panel”) gael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.
5 

(1) Mae’r Panel i gynnwys saith o aelodau, ac o blith y rheini—
(a) bydd un yn cadeirio’r Panel;
(b) bydd un yn aelod amaethyddiaeth annibynnol a benodir yn unol â pharagraff (3);
(c) bydd un yn aelod addysg annibynnol a benodir yn unol â pharagraff (3);
(d) bydd dau yn cael eu dethol gan, ac o blith, aelodau UNITE i gynrychioli buddiannau gweithwyr amaethyddol;
(e) bydd un yn cael ei ddethol gan, ac o blith, aelodau Undeb Amaethwyr Cymru neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw;
(f) bydd un yn cael ei ddethol gan, ac o blith, aelodau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr neu unrhyw sefydliad sy’n ei holynu beth bynnag fo’i enw.
(2) Rhaid i’r aelodau annibynnol gael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn unol â’r Cod Ymarfer ar Benodiadau Cyhoeddus.
(3) Wrth benodi cadeirydd y Panel neu aelod annibynnol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ba mor ddymunol fyddai—
(a) penodi person sy’n meddu ar brofiad o fater, ac sydd wedi dangos gallu mewn mater, sydd yn berthnasol i arfer swyddogaethau’r Panel; a
(b) sicrhau bod amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gael ymhlith aelodau’r Panel.
(4) Bydd aelodau’r Panel a ddetholir o dan baragraffau (1)(e) a (f) yn cynrychioli buddiannau personau sy’n cyflogi gweithwyr amaethyddol.
6 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi cadeirydd cyntaf y Panel a’r aelodau annibynnol cyntaf cyn y dyddiad sefydlu, a’r penodiadau hynny yn cymryd effaith ar y dyddiad sefydlu; ond ni fydd unrhyw benodiad yn cael ei drin fel penodiad annilys dim ond oherwydd methu â gwneud y penodiadau yn unol â’r erthygl hon.
(2) (2) Rhaid i bob aelod cynrychioliadol cyntaf fod wedi ei ddethol gan y sefydliad priodol cyn y dyddiad sefydlu a rhaid i bob detholiad gymryd effaith ar y dyddiad sefydlu; ond ni chaniateir trin unrhyw ddetholiad fel detholiad annilys dim ond oherwydd methu â gwneud y penodiadau yn unol â’r erthygl hon.
7 

(1) Bydd cadeirydd y Panel a’r aelodau annibynnol—
(a) yn dal y swyddi hynny am gyfnod o bedair blynedd o’r dyddiad y’u penodir gan Weinidogion Cymru; a
(b) ym mhob cyswllt arall yn dal ac yn gadael eu swyddi yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn hwn ac yn unol â thelerau eu penodi.
(2) Bydd yr aelodau cynrychioliadol—
(a) yn dal y swyddi hynny am gyfnod o bedair blynedd o’r dyddiad y’u detholir gan eu priod sefydliadau; a
(b) ym mhob cyswllt arall yn dal ac yn gadael eu swyddi yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn hwn ac yn unol â thelerau eu penodi.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ddiswyddo unrhyw aelod o’r Panel, gan gynnwys cadeirydd y Panel, os ydynt wedi eu bodloni bod yr aelod o’r Panel—
(a) heb esgus rhesymol, heb gydymffurfio â’r telerau penodi neu’r telerau dethol; neu
(b) yn methu â chyflawni ei swyddogaethau neu’n an-ffit i gyflawni ei swyddogaethau neu fel arall yn anaddas i barhau yn aelod o’r Panel.
(4) Mae diswyddo aelod o’r Panel gan Weinidogion Cymru yn cymryd effaith ar unwaith, oni nodir fel arall yn yr hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5) Bydd aelod o’r Panel, ar ôl peidio â dal ei swydd ar y Panel, yn gymwys i’w ail-benodi neu ei ail-ddethol yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Ni chaiff person fod yn aelod o’r Panel—
(a) am gyfnod sy’n hwy nag wyth mlynedd, pa un a yw’r cyfnod hwnnw yn un parhaus ai peidio; neu
(b) os yw’r person hwnnw wedi ei ddiswyddo o fod yn aelod o’r Panel gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3).
8 

(1) Caiff cadeirydd y Panel, drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, ymddiswyddo o’r swydd honno, a bydd yn peidio â bod yn aelod o’r Panel pan ddaw’r cyfnod rhybudd hwnnw i ben.
(2) Caiff unrhyw aelod o’r Panel, nad yw’n gadeirydd y Panel, drwy roi o leiaf ddau fis o rybudd ysgrifenedig i gadeirydd y Panel, ymddiswyddo o’r swydd honno, a bydd yn peidio â bod yn aelod o’r Panel pan ddaw’r cyfnod rhybudd hwnnw i ben.
(3) Ar ôl cael rhybudd ymddiswyddo gan aelod annibynnol, rhaid i gadeirydd y Panel hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Pan fo cadeirydd y Panel yn ymddiswyddo, bydd cadeirydd dros dro yn cael ei ddethol gan, ac o blith, yr aelodau annibynnol, a bydd yntau yn dal ei swydd yn gadeirydd y Panel hyd nes y bydd cadeirydd newydd y Panel wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru.
9 
Pan fo swydd aelod o’r Panel yn wag, rhaid ei llenwi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) pan fo swydd cadeirydd y Panel neu swydd un o’r aelodau annibynnol a benodir gan Weinidogion Cymru yn wag, gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 4 neu 5,
(b) pan fo swydd un o’r aelodau cynrychioliadol yn wag, gan y sefydliad y mae swydd ei gynrychiolydd yn wag.
10 
Rhaid i gyfarfod cyntaf y Panel gael ei gynnull gan gadeirydd y Panel cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a dim hwyrach na 80 niwrnod ar ôl y dyddiad sefydlu.
11 

(1) Caiff y Panel bennu ei weithdrefn ei hun yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Mewn unrhyw gyfarfod o’r Panel, cworwm yw—
(a) cadeirydd y Panel;
(b) o leiaf un aelod annibynnol;
(c) o leiaf un o aelodau’r Panel a ddetholir yn unol ag erthygl 5(1)(d); a
(d) o leiaf un o aelodau’r Panel a ddetholir yn unol ag erthygl 5(1)(e) neu (f).
(3) Er gwaethaf paragraff (2), mewn unrhyw gyfarfod lle nad yw cadeirydd y Panel yn bresennol, bydd cadeirydd dros dro yn cael ei ddethol gan, ac o blith, yr aelodau annibynnol sy’n bresennol. Bydd yntau’n gweithredu fel cadeirydd y Panel am gyfnod y cyfarfod, a bydd cworwm yn y cyfarfod.
(4) Caiff y Panel bennu gweithdrefnau ei is-bwyllgorau neu awdurdodi ei is-bwyllgorau i bennu eu gweithdrefnau eu hunain (gan gynnwys cworwm).
(5) Nid yw dilysrwydd unrhyw drafodion y Panel nac unrhyw is-bwyllgor wedi ei effeithio gan—
(a) unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod; neu
(b) unrhyw swydd wag yn aelodaeth y Panel neu is-bwyllgor.
12 

(1) Caiff y Panel gyfarfod ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf deirgwaith ym mhob blwyddyn ariannol.
(2) Rhaid i gadeirydd y Panel benderfynu pryd a lle y bydd unrhyw gyfarfod yn cael ei gynnal, a rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru am hynny.
(3) Rhaid i holl aelodau’r Panel gael o leiaf un wythnos o rybudd o leoliad, amser ac agenda unrhyw gyfarfod.
(4) Caiff aelod cynrychioliadol ddethol aelod arall o’i sefydliad i fynychu’r cyfarfod a phleidleisio yn ei le pan na fydd yn gallu mynychu cyfarfod o’r Panel am unrhyw reswm.
(5) Rhaid cadw cofnodion o gyfarfodydd y Panel.
(6) Rhaid cyflwyno cofnodion unrhyw gyfarfod o’r Panel i Weinidogion Cymru o fewn un mis calendr o gynnal y cyfarfod.
13 

(1) Caiff y Panel—
(a) sefydlu unrhyw is-bwyllgorau y bydd o dro i dro yn ystyried yn angenrheidiol neu’n ddymunol;
(b) cyfeirio i unrhyw is-bwyllgor y cyfryw faterion y bo o bryd i’w gilydd yn pennu; ac
(c) gofyn am gyngor gan unrhyw is-bwyllgor o’r fath er mwyn cynorthwyo’r Panel i arfer ei swyddogaethau.
(2) Caiff y Panel benodi personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel i fod yn aelodau o unrhyw is-bwyllgor, ar yr amod nad yw unrhyw is-bwyllgor o’r fath ond yn cynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Panel.
(3) Rhaid i’r Panel dalu i berson a benodir yn unol â pharagraff (3) unrhyw lwfansau a threuliau y bydd y Panel, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, yn penderfynu arnynt.
14 

(1) Rhaid i’r Panel sefydlu is-bwyllgor parhaol, o’r enw “yr Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant”, ddim hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad sefydlu.
(2) Swyddogaethau’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant fydd cynghori’r Panel ar—
(a) datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol;
(b) cyfleoedd hyfforddiant a all fod o gymorth o ran datblygu sgiliau yn y sector amaethyddol;
(c) cyfleoedd datblygu gyrfaol yn y sector amaethyddol;
(d) unrhyw faterion eraill sy’n deillio yn sgil, neu mewn cysylltiad ag is-baragraffau (a), (b) neu (c).
(3) Rhaid i’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant gynnwys o leiaf—
(a) yr aelodau annibynnol; a
(b) un aelod i’w ddethol gan, ac o blith, aelodau Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru; ac
(c) un aelod i’w ddethol gan gyfarwyddwr LANTRA yng Nghymru o blith staff y sefydliad hwnnw.
(4) Caiff y Panel benodi unrhyw berson arall sy’n meddu ar arbenigedd, gwybodaeth neu ddealltwriaeth perthnasol o’r meysydd a nodir ym mharagraffau 2(a) i (c) uchod i fod yn aelod o’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant.
(5) Rhaid i’r Panel ymgynghori â’r Is-bwyllgor Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant cyn gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a nodir ym mharagraff (2) uchod.
15 

(1) Caiff y Panel gael cyngor gan unrhyw sefydliad neu unigolyn.
(2) Rhaid i gadeirydd y Panel ofyn am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn mynd i unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chael y cyngor hwnnw.
16 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu taliadau cydnabyddiaeth i gadeirydd y Panel a’r aelodau annibynnol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau costau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) i unrhyw aelod o’r Panel.
17 

(1) Blwyddyn ariannol gyntaf y Panel yw’r cyfnod sy’n cychwyn ar y dyddiad sefydlu ac sy’n dod i ben ar—
(a) 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol (os 1 Ebrill yw’r dyddiad sefydlu), neu
(b) 31 Mawrth yn yr ail flwyddyn ganlynol (os nad 1 Ebrill yw’r dyddiad sefydlu).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), blwyddyn ariannol y Panel yw pob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
18 

(1) Rhaid i’r Panel lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).
(2) Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y canlynol—
(a) crynodeb o’r camau a gymerwyd drwy arfer swyddogaethau’r Panel; a
(b) crynodeb o’r materion sy’n berthnasol i’r sector amaethyddol yng Nghymru.
(3) Caiff adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw fater arall y mae cadeirydd y Panel o’r farn ei fod yn briodol.
(4) Rhaid cyflwyno adroddiad blynyddol i Weinidogion Cymru ddim hwyrach nag un mis calendr ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi yr adroddiad blynyddol mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
1 Mawrth 2016