
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Mawrth 2016.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(3)(a) ar ôl “perthi” mewnosoder “a stribedi coediog”.
(3) Mae rheoliad 17 wedi ei ddirymu.
(4) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—“
18. 

(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn sefydlu cronfa genedlaethol, yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
(2) Bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio’r gronfa genedlaethol, yn ôl y drefn flaenoriaeth a ganlyn—
(a) i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr ifanc ac i ffermwyr sy’n dechrau eu gweithgarwch amaethyddol, yn unol ag Erthygl 30(6) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
(b) i ddyrannu hawliau i daliadau i ffermwyr a rwystrwyd rhag cael hawliau i daliadau wedi eu dyrannu iddynt o dan y cynllun taliad sylfaenol o ganlyniad i force majeure neu amgylchiadau eithriadol, yn unol ag Erthygl 30(7)(c) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol;
(c) i ymdrin â’r anghenion blynyddol am daliadau i ffermwyr ifanc, yn unol ag Erthygl 30(7)(f) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol; a
(d) i gynyddu’n llinol, ar sail barhaol, werth yr holl hawliau i daliadau o dan y cynllun taliad sylfaenol os yw’r gronfa genedlaethol yn fwy na 0.5% o’r terfyn cenedlaethol blynyddol ar gyfer y cynllun taliad sylfaenol, yn unol ag Erthygl 30(7)(e) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
19. 

(1) Bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r taliad am arferion amaethyddol sy’n llesol i’r hinsawdd a’r amgylchedd fel canran o gyfanswm gwerth yr hawliau i daliadau y mae’r ffermwr wedi eu gweithredu yn unol ag Erthygl 33(1) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol ar gyfer pob blwyddyn berthnasol, yn unol â thrydydd is-baragraff Erthygl 43(9) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.
(2) Cyfrifir y ganran y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn unol â phedwerydd is-baragraff Erthygl 43(9) o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.”
(5) Mae Rhan 2 o’r Atodlen wedi ei dirymu.
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, yn lle “y diwrnod hwnnw”, rhodder “ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis calendr”.
(3) Ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1 yn lle “torri” rhodder “gwrthdaro ag”.
(4) Yn lle paragraff 5(2) o Atodlen 1 rhodder—“
(2) Pan fo amodau ar safle penodol yn lleihau’r risg o erydiad pridd a phan fo buddiolwr yn gadael tir heb orchudd o gnydau, sofl, gweddillion neu lystyfiant arall ar ôl trin y tir, rhaid i fuddiolwr:
(a) gadael gorchudd arwyneb garw; a
(b) peidio â chaniatáu i bridd erydu i lawr llethr neu oddi ar y safle; ac
(c) llunio asesiad risg pridd arwyneb garw a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru ar y diwrnod y caiff y tir ei drin gan adael arwyneb garw, neu cyn hynny.
(3) Yn y paragraff hwn—
 ystyr “oddi ar y safle” (“off-site”) yw unrhyw fan sydd y tu hwnt i derfyn cae mewn daliad, gan gynnwys cae arall sy’n rhan o’r un daliad.”
4 
Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygio) (Cymru) 2016 wedi eu dirymu.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2016