
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyletswydd Asiantau Gosod i Roi Cyhoeddusrwydd i Ffioedd (Eithrio) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru’n unig.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2007” (“the 2007 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015;
 mae i “gweithgarwch cyfreithiol” (“legal activity”) yr ystyr a roddir i “legal activity” gan adran 12 o Ddeddf 2007; ac
 mae i “person awdurdodedig” (“an authorised person”) yr ystyr a roddir i “authorised person” gan adran 18 o Ddeddf 2007.
3 
At ddibenion Pennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2015, nid yw person yn asiant gosod—
(a) os yw’r person yn berson awdurdodedig; a
(b) os yw’r person yn ymgymryd â gweithgarwch cyfreithiol ac nad yw’n gwneud unrhyw beth arall o fewn adran 86(1) o Ddeddf 2015.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2016