
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 1985 (Diwygio Atodlen 2A) (Troseddau Difrifol) (Cymru) 2016 a daw i rym ar 16 Chwefror 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Deddf Tai 1985 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol: troseddau difrifol) ar ôl paragraff 29 mewnosoder—“
29A 
An offence under either of the following sections of the Modern Slavery Act 2015—
(a) section 1 (slavery, servitude and forced or compulsory labour),
(b) section 2 (human trafficking).”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2016