
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Penodi) 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 3 (penodi’r Comisiynydd)—
(a) ym mharagraff (5) yn lle “reoliad 4” rhodder “reoliadau 4 a 4A”; a
(b) ym mharagraff (6) yn lle’r geiriau agoriadol “Caniateir i berson” rhodder “Yn ddarostyngedig i reoliad 4A, caniateir i berson”.
4 
Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder—“
4A. 

(1) Caiff y Prif Weinidog estyn cyfnod swydd Comisiynydd, sydd yng nghyfnod cyntaf y penodiad, am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf.
(2) Dim ond ar ôl cymryd i ystyriaeth farn pobl hŷn yng Nghymru neu’r personau hynny (fel yr ymddengys i’r Prif Weinidog) sy’n cynrychioli barn pobl hŷn yng Nghymru o ran yr estyniad arfaethedig y caniateir i’r estyniad i gyfnod swydd y Comisiynydd o dan baragraff (1) gael ei wneud.
(3) Mae cyfnod yr estyniad o dan baragraff (1) yn cychwyn ar y dyddiad y daw cyfnod pedair blynedd y Comisiynydd i ben.
(4) Yn dilyn yr estyniad i gyfnod swydd o dan baragraff (1), ni chaniateir i’r Comisiynydd gael ei benodi am ail gyfnod.”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Chwefror 2016