
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 wedi eu diwygio yn unol â’r darpariaethau a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 16, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid i becyn gael ei selio gan samplwr hadau trwyddedig, neu o dan oruchwyliaeth samplwr hadau trwyddedig, gan ddefnyddio sêl swyddogol.”
4 
Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid dal gafael ar y ddwy ran o’r sampl a anfonir i orsaf brofi swyddogol am o leiaf ddwy flynedd.”
5 
Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—“
28A. 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud y cyfryw drefniadau gydag unrhyw berson (“A”) y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at ddiben galluogi A i gyflawni mesurau swyddogol ar ran Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw drefniant o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni bod y trefniant yn gwneud darpariaeth at ddiben atal unrhyw berson rhag—
(a) cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan y trefniant; a
(b) cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys mewn unrhyw drefniant y cyfryw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2), gan gynnwys amodau—
(a) sy’n pennu—
(i) y mesurau swyddogol y mae’n rhaid i A eu cyflawni;
(ii) y rhywogaethau a’r cenedlaethau o hadau y caiff A gyflawni’r mesurau swyddogol mewn cysylltiad â hwy;
(iii) y dulliau i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(iv) y ffioedd y caiff A eu codi mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(v) y cofnodion y mae’n rhaid i A eu cadw mewn cysylltiad â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A;
(b) sy’n gwahardd A rhag—
(i) codi ffioedd mewn perthynas â’r mesurau swyddogol a gyflawnir gan A o dan y trefniant ac eithrio i’r graddau nad yw’r ffioedd yn uwch na’r costau y mae A yn mynd iddynt wrth eu cyflawni;
(ii) cyflawni’r mesurau swyddogol ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol;
(c) sy’n gwahardd A rhag gwneud unrhyw drefniant pellach gydag unrhyw berson arall (“B”) at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae A wedi gwneud trefniadau gyda Gweinidogion Cymru i’w cyflawni, oni bai—
(i) bod Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo holl amodau’r trefniant pellach a bod A wedi cael cymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw i wneud y trefniant pellach;
(ii) bod y trefniant pellach yn cynnwys amod sy’n gwahardd B rhag gwneud unrhyw drefniadau dilynol at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â chyflawni’r mesurau swyddogol y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniant gydag A mewn cysylltiad â hwy;
(iii) bod y trefniant pellach yn cynnwys cydnabyddiaeth gan A y caiff Gweinidogion Cymru amrywio, ddirymu neu atal dros dro y trefniant pellach os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru nad yw B yn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r trefniant pellach, neu bod B wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau hynny; a
(iv) bod y trefniant pellach yn cynnwys yr amodau a bennir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r paragraff hwn ac at y dibenion hyn mae cyfeiriadau yn yr is-baragraffau hynny at A i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at B, ac mae cyfeiriadau at “y trefniant” i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y trefniant pellach.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chymeradwyo gwneud unrhyw drefniant pellach o dan y rheoliad hwn oni bai eu bod wedi eu bodloni na fydd B—
(a) yn cael unrhyw elw preifat o unrhyw fesurau swyddogol y mae B i gael ei awdurdodi i’w cyflawni o dan y trefniant pellach;
(b) yn cyflawni unrhyw fesurau swyddogol o dan y trefniant pellach ac eithrio o dan oruchwyliaeth swyddogol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig i A neu B (yn ôl y digwydd), amrywio, atal dros dro neu ddirymu unrhyw drefniant neu drefniant pellach, neu unrhyw amodau trefniant neu amodau trefniant pellach a wneir o dan y rheoliad hwn.
(6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (5) bennu—
(a) mewn cysylltiad ag amrywiad neu ddirymiad, y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dirymiad yn cael effaith ohono;
(b) mewn cysylltiad ag atal dros dro, y cyfnod pryd y mae’r atal dros dro yn cael effaith.
(7) Pan fydd amrywiad, dirymiad neu atal dros dro yn cael effaith, caiff Gweinidogion Cymru, at unrhyw ddibenion mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn, barhau i roi sylw i’r cyfryw fesurau swyddogol a gyflawnir o dan drefniant (neu drefniant pellach) a gafodd ei amrywio, ei ddirymu neu ei atal dros dro yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn fesurau swyddogol a gyflawnir yn unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae “mesurau swyddogol” (“official measures”) yn cynnwys archwiliadau swyddogol, treialon tyfu, profion ac asesiadau.”
6 
Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 29 (safonau gwirfoddol uwch ar gyfer hadau porthiant) rhodder—“
29. 
Caniateir marchnata’r canlynol fel hadau o safon wirfoddol uwch—
(a) troed y ceiliog, festulolium, rhygwellt hybrid, rhygwellt yr Eidal, peiswellt, rhygwellt parhaol, meillion coch, peiswellt coch, y godog, rhonwellt bach, rhonwellt, gweunwellt llyfn, peiswellt tal a meillion gwyn, pan fo unrhyw un neu ragor o’r rhain wedi eu dosbarthu’n hadau ardystiedig (CS);
(b) maglys rhuddlas, a ddosbarthwyd naill ai’n hadau ardystiedig o’r genhedlaeth gyntaf (CI) neu’n hadau ardystiedig o’r ail genhedlaeth (C2).”
7 

(1) Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 22 (hadau porthiant ac eithrio cymysgedd: gofynion labelu), yn lle is-baragraff (2)(b) rhodder—“
(b) enw a chyfeiriad neu rif adnabod y person sy’n gosod y label;”.
(3) Ym mharagraff 25 (hadau llysiau: labeli cyflenwr), yn lle is-baragraff (5)(b) rhodder—“
(b) enw a chyfeiriad neu rif adnabod y person sy’n gosod y label;”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2016