
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2017.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004;
 ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010; ac
 ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013.
3 

(1) Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 “the Health and Care Professions Council register” means the register established and maintained by the Health and Care Professions Council under article 5 of the Health and Social Work Professions Order 2001;”;“
 “registered radiographer” means a person registered in Part 11 of the Health and Care Professions Council register;”;“
 “therapeutic radiographer independent prescriber” means a person —
(a) who is a registered radiographer; and
(b) against whose name is recorded in the relevant register
(i) an entitlement to use the title “therapeutic radiographer”; and
(ii) an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a therapeutic radiographer independent prescriber;”.
(3) Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn y diffiniad o “prescriber”—
(i) yn is-baragraff (f) hepgorer “and”;
(ii) yn is-baragraff (g) ar ôl “prescriber;” mewnosoder “and”;
(iii) ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—“
(h) a therapeutic radiographer independent prescriber,”;
(b) yn y diffiniad o “supplementary prescriber” ar ôl is-baragraff (b)(iv)(cc) mewnosoder —“(dd) dietitians, or”; ac
(c) yn y diffiniad o “relevant register” ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder —“
(ia) dietitians;”.
(4) Ym mharagraff 49(3) a (4) o Atodlen 6 (telerau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(5) Ym mharagraff 64(1) a (2) o Atodlen 6 (sy’n ymwneud â nyrsys sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrsys-ragnodwyr annibynnol, fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol, ffisiotherapyddion-ragnodwyr annibynnol, podiatryddion-ragnodwyr neu giropodyddion-ragnodwyr annibynnol a rhagnodwyr atodol) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.
(6) Ym mhennawd paragraff 64 o Atodlen 6, ar ôl “chiropodist independent prescriber” mewnosoder “, therapeutic radiographer independent prescriber”.
4 

(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”;“
 ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;“
 ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n radiograffydd cofrestredig, a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol—
(i) hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a
(ii) nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;”.
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”)—
(i) yn is-baragraff (dd) hepgorer “ac”;
(ii) yn is-baragraff (e) yn lle “rhagnodydd annibynnol.” mewnosoder “rhagnodydd annibynnol; ac”;
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,”;
(b) yn y diffiniad o “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder—“
(ia) deietegwyr;”;
(c) yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”)—
(i) ar ôl “diagnostig neu therapiwtig,”, hepgorer “neu”; a
(ii) ar ôl is-baragraff (a)(iv)(cc) mewnosoder—“(chch) deietegwyr, neu”.
5 

(1) Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 1 (Esemptiadau), ar ôl “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”.
(3) Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;”
6 

(1) Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”;“
 ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;“
 ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n radiograffydd cofrestredig, a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal —
(i) hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a
(ii) nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;”.
(3) Yn rheoliad 2(1) —
(a) yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”) ar ôl “ciropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”; a
(b) yn is-baragraff (c)(i) o ddiffiniad “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) ar ôl “chiropodyddion a phodiatryddion,” mewnosoder “ deietegwyr,”.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru.
14th December 2016