
RHAN 1
1 

(1) Enwʼr Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016.
(2) Dawʼr Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2017 ac eithrio erthyglau 4, 6 a 7 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2017.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “corff dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning body”) yw corff y darperir adnoddau ariannol iddo yn unol ag adran 34(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 mewn cysylltiad â darparu dysgu seiliedig ar waith;
 ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary body”) yw corff, ac eithrio corff syʼn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, nad yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;
 ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw —
(a) awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) corff llywodraethu ysgol;
(c) sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
(d) corff gwirfoddol, iʼr graddau bod y gwasanaethau datblygu ieuenctid a ddarperir ar gyfer neu ar ran y corff gwirfoddol yn cael eu darparu i bobl yng Nghymru;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadauʼr Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015.
RHAN 2
3 

(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithwyr ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 1 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofynion eraill sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
4 

(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol, (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr ieuenctid.
(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 3
5 

(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y disgrifiad oʼr categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 iʼr Gorchymyn hwn yn nodiʼr gofyniad arall sy’n bodloni dibenion y disgrifiad hwnnw.
6 

(1) Ni chaiff person syʼn dod o fewn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 ddarparu gwasanaethau datblygu ieuenctid ar gyfer neu ar ran corff perthnasol (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori gweithiwr cymorth ieuenctid.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau gweithiwr cymorth ieuenctid y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 4
7 

(1) Ni chaiff person ddarparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith ar gyfer neu ar ran corff dysgu seiliedig ar waith (ac eithrio fel gwirfoddolwr) oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 yn y categori ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson syʼn darparu gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith y mae Rhan 2 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn cysylltiad â hwy (rhyddid i ddarparu gwasanaethau yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol).
RHAN 5
8 

(1) Mae Atodlen 2 i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel y’i nodir ym mharagraffau (2) a (3).
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 mewnosoder ar ddiwedd y Tabl—“
Gweithiwr ieuenctid Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—
(a) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu
(b) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.
Gweithiwr cymorth ieuenctid Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–
(c) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu
(d) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.”
(3) Yn lle paragraff 3 rhodder—“
3. 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—
(a) ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a
(b) er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;
 “gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—
(a) a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a
(b) syʼn hybu—
(i) datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu
(ii) ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;
 “gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—
(a) cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;
(b) asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;ystyr “ysgol” (“school”) yw—
(a) ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
(b) ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.”
Julie James
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2016
ATODLEN 1
erthygl 3
RHAN 1
1 
Nodir y cymwysterau gweithiwr ieuenctid yn y Rhan hon fel a ganlyn—
(a) mae Tabl 1 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Nghymru;
(b) mae Tabl 2 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn Lloegr;
(c) mae Tabl 3 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yn yr Alban;
(d) mae Tabl 4 yn nodi cymwysterau a ddyfernir gan gyrff dyfarnu yng Ngogledd Iwerddon;
(e) mae Tabl 5 yn nodi cymwysterau a ddyfernir yn y Deyrnas Unedig gan gyrff dyfarnu eraill.

Tabl 1: Cymru
Cymwysterau o ran Cymru Corff dyfarnu
Diploma addysg uwch mewn addysg gymunedol Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Glyndŵr
Diploma ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol Prifysgol GlyndŵrAthrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol GlyndŵrAthrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain CymruColeg y Drindod, CaerfyrddinPrifysgol De CymruPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi SantAthrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddCorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd
Diploma ôl-raddedig mewn proffesiynau cymunedol (gwaith ieuenctid a chymunedol) Prifysgol Metropolitan CaerdyddAthrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol Prifysgol Metropolitan CaerdyddAthrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Prifysgol Metropolitan CaerdyddPrifysgol GlyndŵrAthrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain CymruAthrofa Prifysgol Cymru, CaerdyddColeg y Drindod, CaerfyrddinPrifysgol De CymruPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi SantCorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (cyfiawnder ieuenctid) Prifysgol De CymruCorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol (chwaraeon) Prifysgol De CymruCorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd
Gradd ôl-raddedig mewn addysg ieuenctid a chymunedol Prifysgol GlyndŵrAthrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol Prifysgol GlyndŵrAthrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Coleg y Drindod, CaerfyrddinPrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Gradd ôl-raddedig yn y proffesiynau cymunedol Prifysgol Metropolitan CaerdyddAthrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Tabl 2: Lloegr
Cymwysterau o ran Lloegr Corff dyfarnu
Diploma addysg uwch mewn gwaith ieuenctid a chymuned Bristol PolytechnicJohn Moores UniversityUniversity of the West of England
Diploma graddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol University of CumbriaSt Martin’s College
Diploma graddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid Oasis CollegeOasis Trust
Diploma graddedig mewn gwaith datblygu ieuenctid a chymunedol University of CumbriaSt Martin’s College
Diploma graddedig mewn gwaith ieuenctid Sheffield Hallam University
Diploma mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid University of Manchester
Diploma ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid Goldsmiths College, University of LondonTurning Point College
Diploma ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol) University of Huddersfield
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol De Montfort UniversityManchester Metropolitan UniversityLeicester Polytechnic
Diploma ôl-raddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol Bradford CollegeBrunel UniversityCollege of St Mark & St John PlymouthLeeds Beckett UniversityLeeds Metropolitan UniversityManchester Metropolitan UniversityUniversity College BirminghamUniversity College Plymouth, St Mark & St JohnUniversity of CumbriaUniversity of East LondonUniversity of St Mark & St John
Diploma ôl-raddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) Moorlands College
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid University of GloucestershireUniversity of Teesside
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Bradford CollegeBrunel UniversityLeeds Beckett UniversityLeeds Metropolitan UniversityNewman UniversityManchester Metropolitan UniversitySt Martin’s CollegeUniversity College BirminghamUniversity of CumbriaUniversity of East LondonUniversity of St Mark & St JohnCollege of St Mark & St John PlymouthUniversity College Plymouth, St Mark & St John
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol University of Teesside
Gradd israddedig mewn astudiaethau cymunedol ac ieuenctid Bulmershe College of Higher EducationUniversity of Reading
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid University of Durham
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith cymunedol ac ieuenctid cymhwysol University of DerbyUniversity of Manchester
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol Sunderland University
Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid University of CumbriaSt Martin’s College
Gradd israddedig mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol University of CumbriaUniversity of Sunderland
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid Ruskin College, Oxford
Gradd israddedig mewn datblygu ieuenctid a chymunedol De Montfort UniversityLeicester Polytechnic
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth, gwaith ieuenctid a gweinidogaeth Nazarene Theological College
Gradd israddedig mewn diwinyddiaeth gymhwysol (gwaith ieuenctid a chymunedol) Moorlands College
Gradd israddedig mewn gwaith a chymorth ieuenctid integredig Middlesex University
Gradd israddedig mewn gwaith a gweinidogaeth ieuenctid Oasis CollegeOasis Trust
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Brunel UniversityCoventry UniversityLondon Metropolitan UniversityMiddlesex UniversityUniversity of BrightonUniversity of ChesterUniversity of CumbriaUniversity of Gloucestershire
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Cristnogol University of Chester
Gradd israddedig mewn astudiaethau gwaith ieuenctid a chymunedol Sunderland University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Anglia Polytechnic UniversityAnglia Ruskin UniversityBradford CollegeBrunel UniversityLeeds Metropolitan UniversityManchester Metropolitan UniversityRuskin College, OxfordSheffield Hallam UniversitySt Helens CollegeSt Martin’s CollegeThames PolytechnicUniversity College Plymouth, St Mark & St JohnUniversity of BedfordshireUniversity of BoltonUniversity of ChichesterUniversity of CumbriaUniversity of East LondonUniversity of GreenwichUniversity of HuddersfieldUniversity of St Mark & St JohnUniversity of WorcesterYork St John University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol gyda llwybrau Cristnogol, Mwslimaidd a seciwlar Newman University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol De Montfort UniversityLeeds Beckett UniversityLeeds Metropolitan UniversityUniversity of CumbriaUniversity of Hull
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a gwasanaethau cymunedol University of Teesside
Gradd israddedig mewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedol University of Worcester
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau (gwaith ieuenctid) University of Derby
Gradd israddedig mewn gwyddor gymdeithasol, datblygu cymunedol a gwaith ieuenctid Goldsmiths College, University of London
Gradd ôl-raddedig mewn anthropoleg gymhwysol a gwaith cymunedol ac ieuenctid Goldsmiths College, University of London
Gradd ôl-raddedig mewn astudiaethau proffesiynol (gwaith ieuenctid a chymunedol) University of Huddersfield
Gradd ôl-raddedig mewn datblygu gwaith ieuenctid a chymunedol De Montfort University
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid University of GloucestershireUniversity of Teesside
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol College of St Mark & St JohnEdgehill UniversityLiverpool Hope UniversityUniversity College Plymouth, St Mark & St JohnNewman UniversityUniversity of DurhamUniversity of HullUniversity of NorthamptonUniversity of St Mark & St John
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a datblygu cymunedol University of Teesside
Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Brunel University

Tabl 3: yr Alban
Cymwysterau o ran yr Alban Corff dyfarnu
Diploma ôl-raddedig mewn addysg gymunedol Northern College of EducationMoray House Institute of EducationUniversity of AberdeenUniversity of Edinburgh
Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol Northern College of EducationUniversity of AberdeenUniversity of DundeeUniversity of Glasgow
Diploma ôl-raddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol gyda diwinyddiaeth gymhwysol International Christian College
Diploma mewn addysg gymunedol Moray House Institute of EducationUniversity of Edinburgh
Diploma mewn addysg oedolion ac addysg barhaus University of Glasgow
Gradd israddedig mewn addysg gymunedol Jordanhill College of EducationNorthern College of EducationMoray House Institute of EducationUniversity of AberdeenUniversity of EdinburghWest of Scotland UniversityUniversity of Strathclyde
Gradd israddedig mewn datblygu a dysgu cymunedol University of Dundee
Gradd israddedig mewn datblygu cymunedol University of Glasgow
Gradd israddedig mewn dysgu a chyfranogi cymunedol West of Scotland University
Gradd israddedig mewn dysgu a datblygu cymunedol University of GlasgowNorthern College of EducationUniversity of AberdeenUniversity of Dundee
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Edinburgh Napier University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid gyda diwinyddiaeth gymhwysol International Christian College
Gradd ôl-raddedig mewn addysg gymunedol Moray House Institute of EducationUniversity of Edinburgh
Gradd ôl-raddedig mewn addysg oedolion ac addysg barhaus University of Glasgow
Tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg gymunedol Jordanhill College of EducationMoray House Institute of EducationNorthern College of EducationUniversity of AberdeenUniversity of EdinburghUniversity of StrathclydeWest of Scotland University
Tystysgrif ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid Jordanhill College of EducationMoray House Institute of EducationUniversity of EdinburghUniversity of Strathclyde

Tabl 4: Gogledd Iwerddon
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon Corff dyfarnu
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol University of Ulster
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid cymunedol University of Ulster

Tabl 5: Cyrff dyfarnu eraill sy’n dyfarnu cymwysterau yn y Deyrnas Unedig
Cymwysterau Corff dyfarnu
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol YMCA George Williams College
Gradd israddedig mewn addysg anffurfiol (gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol) YMCA George Williams College
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid Open University
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol Institute for Children Youth and Mission
Gradd israddedig mewn gwaith ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol Centre for Youth MinistryInstitute for Children Youth and Mission
Gradd israddedig mewn gwaith ysgolion, ieuenctid a chymunedol a diwinyddiaeth ymarferol Institute for Children, Youth and Mission
Gradd israddedig mewn gweithio gyda phobl ifanc/gwaith ieuenctid Open University
Gradd ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol YMCA George Williams College
Diploma ôl-raddedig mewn gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol YMCA George Williams College
RHAN 2
2 
Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—
(a) os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu
(b) os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).
ATODLEN 2
erthygl 5
RHAN 1
1 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “CCEA” (“CCEA”) yw Cyngor Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu Gogledd Iwerddon y parheir â’i fodolaeth drwy erthygl 73 o Orchymyn 1998;
 ystyr “Cymwysterau Cymru” (“Qualifications Wales”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 2(1) o Deddf 2015;
 ystyr “Deddf (Yr Alban) 1996” (“the 1996 (Scotland) Act”) yw Deddf Addysg (Yr Alban) 1996;
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;
 ystyr “Gorchymyn 1998” (“the 1998 Order”) yw Gorchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998;
 ystyr “Ofqual” (“Ofqual”) yw’r Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau a sefydlwyd o dan adran 127 o Ddeddf 2009;
 ystyr “SQA” (“SQA”) yw Awdurdod Cymwysterau’r Alban a sefydlwyd o dan adran 1 Deddf (Yr Alban) 1996.
2 
Mae paragraffau 2 i 5 yn nodi’r cymwysterau gweithwyr cymorth ieuenctid.
3 

(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a) dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b) tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c) tystysgrif Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d) diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid.
4 

(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan gorff a gydnabyddir gan Ofqual o dan adran 132 o Ddeddf 2009 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a) tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(b) dyfarniad Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(c) tystysgrif Lefel 2 mewn gweithio gyda phobl ifanc;
(d) tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e) dyfarniad Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(f) dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g) tystysgrif Lefel 3 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf;
(h) diploma Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(i) dyfarniad Lefel 4 mewn gweithio gyda phobl ifanc hyglwyf.
5 

(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan yr SQA, neu unrhyw gorff a gymeradwyir gan yr SQA o dan adran 2(1) o Ddeddf (yr Alban) 1996 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a) SVQ 2 mewn gwaith ieuenctid;
(b) SVQ 3 mewn gwaith ieuenctid;
(c) SVQ 3 mewn cyfiawnder ieuenctid.
6 

(1) Mae cymhwyster a nodir yn is-baragraff (2) yn gymhwyster gweithiwr cymorth ieuenctid at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014 os cafodd ei ddyfarnu gan y CCEA, neu unrhyw gorff a gydnabyddir gan y CCEA o dan Ran 8 o Orchymyn 1998 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster hwnnw.
(2) Y cymwysterau yw—
(a) dyfarniad Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(b) dyfarniad Lefel 2 mewn deall rôl y cyngor ieuenctid;
(c) tystysgrif Lefel 2 mewn cysylltiadau cymunedol, cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(d) tystysgrif Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(e) diploma Lefel 2 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(f) dyfarniad Lefel 3 mewn ymarfer gwaith ieuenctid;
(g) tystysgrif Lefel 3 mewn gwaith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig;
(h) tystysgrif Lefel 3 mewn gweithwyr cefnogi cymheiriaid - theori ac ymarfer.
RHAN 2
7 
Mae person yn bodloni’r gofynion eraill at ddibenion y categori gweithiwr cymorth ieuenctid yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2014—
(a) os oedd y person hwnnw yn athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig, cyn 31 Rhagfyr 1988, o fewn ystyr Rhan 3 o Reoliadau Addysg (Athrawon) 1982 (gweler rheoliad 13), neu
(b) os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd Rhan 3 o Reoliadau 2015 (rhyddid ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig).